British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 14:26 GMT
Cyhuddo dyn wedi marwolaeth merch

Louise Ferreira
Bu farw Louise Ferreira wedi i gerbyd droi drosodd i mewn i afon

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn 45 oed o Gaint am achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.

Yn ystod llifogydd ym Mhowys y llynedd bu farw merch ifanc 17 oed.

Fe wnaeth y cerbyd gyriant pedair olwyn yr oedd Louise Ferreira yn teithio ynddo droi drosodd a syrthio i mewn i afon oedd wedi ymestyn ei glannau ger Llyn Brianne ar Fedi 5 2008.

Fe fydd y dyn yn ymddangos o flaen ynadon Llandrindod ar Ragfyr 2.

Aed â Louise, oedd yn dod o Thamesmead, de Llundain, i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn hofrennydd yr Awyrlu.

Roedd hi'n teithio gyda chriw oddi ar y brif ffordd tra ar wyliau i ddathlu canlyniadau "gwych" ei harholiadau.

Bu'n rhaid i ddyn oedd yn y cerbyd gerdded sawl milltir i fferm er mwyn galw'r gwasanaethau brys.



HEFYD
Glaw trwm: Lladd merch 17 oed
06 Medi 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific