Fe fydd rhaid i'r person yn Aberteifi fedru'r Gymraeg
|
Mae Aberteifi yn chwilio am grïwr tref ar ôl i'r un diwethaf roi'r gorau i'r swydd bron i 10 mlynedd yn ôl. Y gobaith ydi bod modd i'r crïwr gadw trefn ar bobl Aberteifi ond hefyd i hysbysu ymwelwyr o'r atyniadau lleol. Mae Siambr Fasnach Aberteifi yn chwilio am ddyn neu ddynes i gychwyn y gwaith erbyn dathliadau Noson Fictorianaidd y dref ar Ragfyr 8. Mae'r wisg a'r gloch yn barod ar gyfer pwy bynnag fydd yn llwyddiannus. Cafodd y gloch ei chanu diwethaf fel rhan o ddathliadau Mileniwm y dref yn y flwyddyn 2000. Caiff gwrandawiadau eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf am y crïwr tref ddwyieithog. Dathliadau "Rydym yn teimlo y bydd crïwr tref yn ychwanegu at ddilysrwydd y digwyddiad sy'n llawn atyniadau a digwyddiadau traddodiadol," meddai cadeirydd y siambr fasnach, Paul Oakley. "Yn ystod y digwyddiad fe fydd 'na ddigon o gerddoriaeth, canu carolau, goleuo'r golau Nadolig ac fe fydd Siôn Corn ei hun yn ymweld â ni. "Rydym hefyd yn paratoi at ddathliadau 900 mlynedd Aberteifi yn 2010. "Oherwydd hynny roeddem yn credu y byddai mwy o alw am grïwr y flwyddyn nesaf." Dywedodd Maer y Dref, Mark Cole, ei fod yn gefnogol iawn i'r syniad ac yn gobeithio y byddai'r cyngor tref yn cefnogi hefyd. Fe fydd Mr Cole yn un o'r beirniaid gyda Mr Oakley a Caroline Sommerville a Neal Jones o bwyllgor y Noson Fictorianaidd. Mae'n rhaid i'r person llwyddiannus fod yn medru Cymraeg a Saesneg ac fe fydd y gwrandawiadau yn cael eu cynnal nos Iau. Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu gyda 01239 613966.
|