British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2009, 11:26 GMT
Mwy o rym i roi profiadau

Y Senedd
Dywed y pwyllgor bod angen grym i hyrwyddo diwyllaint a chwaraeon

Mae angen mwy o bwerau er mwyn cefnogi a hyrwyddo profiadau diwylliannol a chwaraeon.

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau er mwyn gosod dyletswydd statudol ar gynghorau sir i hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol "o'r radd flaenaf".

Dyma ydi barn un o Bwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad.

Mae'r pwyllgor wedi bod yn ystyried gorchymyn arfaethedig y llywodraeth, Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill).

"Roedd y Pwyllgor o'r farn bod chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol yn rhan o wead bywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru a'u bod yn chwarae rôl bwysig o ran iechyd a lles cyffredinol ein cymdeithasau lleol" meddai Mike German AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

"Fodd bynnag, cawsom dystiolaeth yn awgrymu bod nifer o awdurdodau lleol yn aml yn penderfynu blaenoriaethu gwasanaethau gorfodol ar adeg o gyfyngiadau ariannol.

"Mae darpariaeth ddiwylliannol a chwaraeon yn ddewisol i awdurdodau lleol a dyna pam rydym yn cefnogi cais Llywodraeth Cymru am bwerau deddfu yn y maes hwn.

"Byddai'n golygu y gellir cyflwyno deddfwriaeth i wyrdroi'r sefyllfa ac i sicrhau bod cynghorau yn darparu gwasanaethau diwylliannol o'r radd flaenaf, a sicrhau bod cyfleoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ar gael i bawb."

Fel rhan o'i waith, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru a grwpiau celfyddydol a diwylliannol amrywiol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific