Fe fydd Rhodri Morgan yn gadael ei swydd fel Prif Weinidog o fewn mis
|
Dywedodd Prif Weinidog Cymru mai hanfod datganoli yw dod â'r llywodraeth yn nes at y bobl. Mewn araith yn Aberystwyth nos Wener ychwanegodd Rhodri Morgan bod datganoli hefyd yn rhoi cyfle i ni ddod o hyd i atebion Cymreig i broblemau sy'n wynebu Cymru. Mr Morgan oedd yn traddodi darlith yr Archif Wleidyddol. Roedd yn ystyried sut y mae degawd cyntaf datganoli wedi gosod y sylfeini ar gyfer rhagor o bwerau i'r Cynulliad. Eglurodd bod hynny am fod gan bobl Cymru bellach hyder ynghylch gallu Cymru i fod yn gyfrifol am ei hagenda hi ei hun heb wneud smonach o bethau. "Rhaid i ni ddefnyddio datganoli i uno Cymru," meddai. Gwasanaethu "Yn wahanol i'r Alban, ni etifeddodd Cymru ym 1999 sefydliadau cymdeithas sifil a oedd wedi arfer â gwneud penderfyniadau'n annibynnol.
 |
Bydd datganoli'n datblygu am fod pobl yn gweld ei fod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw
|
"Roedd dod i arfer â gwneud penderfyniadau yn rhywbeth a ddigwyddodd ar ôl datganoli yng Nghymru. "Roedd Yr Alban eisoes yn gyfarwydd â gwneud hynny," meddai. Soniodd bod datganoli wedi bod yn fodd i symud y llywodraeth yn nes at y bobl y mae'n eu gwasanaethu ac yn gyfle i lunio atebion lleol i broblemau lleol. "Mae'r Cynulliad ei hun yn gam enfawr ymlaen o ran cynwysoldeb - o ran amgylchedd dwyieithog, cynrychiolaeth menywod, pobl yn eu hugeiniau a phobl yn eu 1970au," meddai. Hyder "Bydd adroddiad y Confensiwn Cymru Gyfan yn dod i law cyn hir, a byddwn yn mynd ati'n ofalus i ystyried a yw pobl Cymru'n barod ai peidio i gymryd y cam nesaf. Y prawf sylfaenol - beth fydd yn ei wneud ar gyfer Mrs Jones a'i phlant yng Nghwmscwt? "Bydd cefnogaeth i bwerau pellach yn seiliedig ar yr hyder sydd gennym yn y ffordd yr ydym yn mynd ati i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes. "Os yw dinasyddion Cymru o'r farn ein bod yn defnyddio'r pwerau sydd gennym 'nawr i wneud gwaith da ar eu rhan, byddan nhw'n barod iawn i gefnogi pwerau pellach. "Mae'n rhy gynnar i ddweud pa benderfyniad a wneir ynglŷn â chynnal refferendwm, ond dw i yn gwybod na fydd datganoli yng Nghymru yn datblygu drwy ddilyn patrwm sy'n seiliedig ar werslyfrau am gyfraith gyfansoddiadol. "Bydd datganoli'n datblygu am fod pobl yn gweld ei fod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw." Fe fydd Mr Morgan yn gadael ei swydd fel Prif Weinidog Cymru pan fydd ei olynydd yn cymryd drosodd yr awenau ar Ragfyr yr 8. Tri sydd yn ymgeisio am y swydd, Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis.
|