Fe fydd y bont yn rhan o lwybr beicio newydd
|
Caiff pont sy'n rhan o lwybr beicio newydd ei chodi i'w lle dros nos. Mae'r bont droed a beicio yn cael ei gosod ochr yn ochr â phont i gerbydau dros y rheilffordd yng Ngheg y Ffordd, Prestatyn yn Sir Ddinbych. Yn ychwanegol at greu llwybr diogel ar gyfer beicwyr, y bwriad ydi gwella'r ffordd i blant sy'n cerdded i'r ysgol. Fe fydd y bont yn rhan o lwybr beicio a fydd yn ymestyn yn y pendraw o ffordd yr A548 sydd ger y glannau i Allt Melyd. Er mwyn i'r gwaith o osod y bont gael ei wneud fe fydd y bont i gerbydau ar gau nos Sadwrn a nos Sul. Bydd y gwaith o osod y bont newydd yn cael ei wneud dros nos nos Sadwrn a nos Sul am resymau diogelwch ac i osgoi unrhyw amhariad i'r gwasanaethau trên sy'n defnyddio'r brif reilffordd. Cwmni Mulcair Limited fydd yn gwneud y gwaith sy'n rhan o Becyn Arfordir Afon Clwyd o £2 filiwn.
|