Roedd y disgyblion wedi gwneud fideo i gyd fynd â'r ddeiseb
|
Mae dau ddisgybl 15 oed wedi cyflwyno deiseb gyda dros 1,300 o enwau arni i'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am fwy o wasanaethau trenau i ogledd Sir Benfro. Cafodd Joanne Griffiths a Sam Faulkner gefnogaeth busnesau a thrigolion i'w galwad i wneud mwy o ddefnydd o orsaf Abergwaun. Un trên sydd yna yn ystod oriau golau dydd ond dywed Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn bwriadu cynyddu'r gwasanaethau. Mae Aelod Cynulliad Preseli Penfro, Paul Davies, wedi dangos ei gefnogaeth i'r ddau ddisgybl. Fe gychwynnodd y disgyblion o Drewyddel eu deiseb yn galw am fwy o wasanaethau trên rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin ym mis Medi. Cafodd 1,317 o enwau eu casglu drwy wefan benodol ac ar bapur oedd mewn siopau a bwytai yn ardal Abergwaun. "Fe wnaethom ddechrau'r ddeiseb oherwydd ein bod eisiau cael gwell cysylltiad gyda gogledd Sir Benfro sy'n ardal wledig," meddai Joanne. 'Ystyriaeth deg' "Fe fyddai hyn yn gymorth enfawr i ardal sy'n ddibynnol iawn ar dwristiaid sy'n dod yma ar wyliau neu am y dydd." Ar hyn o bryd mae 'na ddau drên y dydd o ac i Abergwaun sy'n cyd-fynd â gwasanaeth Irish Ferry. Mae un trên felly yn gadael Abergwaun am 1.50am ac un arall yn gadael am 1.27pm. Dywed Sam, sy'n ddisgybl yn Ysgol Y Preseli, y byddai mwy o enwau ar y ddeiseb petai'r amser wedi caniatáu. "Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth y rhoi ystyried deg i rywbeth sy'n wirioneddol ei angen ar yr ardal." Fe gafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Mr Davies sydd wedi cyflwyno'r ddeiseb ymlaen i bwyllgor deisebau'r cynulliad. "Yn hytrach na chwyno am bethau, mae'r ddau wedi mynd ati i wneud rhywbeth cadarnhaol," meddai Mr Davies. "Dwi'n cytuno'n llwyr gyda bwriad y ddeiseb ac wedi ymgyrchu yn aflwyddiannus y llynedd am bum gwasanaeth ychwanegol y dydd. "Dwi'n gobeithio y bydd y pwyllgor deisebau yn gwrando ar eu cais." Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn ystyried adroddiad ar hyn o bryd a fyddai'n hybu trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal. Mae disgwyl i weinidogion wneud penderfyniad cyn diwedd y flwyddyn.
|