Bydd dros 70,000 o gefnogwyr rygbi yng nghanol y ddinas
Gyda gemau rygbi rhyngwladol yr hydref yn cychwyn ddydd Sadwrn mae 'na ferw gwyllt yng nghanol y brifddinas. Seland Newydd ydi ymwelwyr cyntaf tîm rygbi Cymru. Gyda disgwyl dros 75,00 o gefnogwyr i Gaerdydd mae'r heddlu yn cynghori pobl i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i gyrraedd mewn pryd. Ond nid yn Stadiwm y Mileniwm yn unig y bydd y sylw wrth i Ŵyl CeltFest gael ei gynnal am yr eildro yn Arena Rhyngwladol Caerdydd. Fe fydd yr arena yn cael ei thrawsnewid yn bentref rygbi am y diwrnod. Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yno yn ystod yr ŵyl 12 awr y mae Rhydian Roberts, Max Boyce a Dafydd Iwan. Dyma'r ail waith i'r ŵyl gael ei gynnal ar ôl llwyddiant y digwyddiad ar ddiwrnod gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni. Sgrin fawr Roedd 4,000 o bobl wedi bod yn y CeltFest cyntaf. Yn ystod y digwydda ac wedi'r gêm fe fydd 'na sesiwn holi ac ateb chwaraewr rygbi'r flwyddyn, Shane Williams. Mae cwmni cwrw Felinfoel wedi ail gynhyrchu cwrw Double Dragon i'r un cryfder ag yr oedd yn 1972, y flwyddyn wnaeth Llanelli guro'r Crysau Duon ar Barc y Strade. Fe fydd yr ŵyl yn cychwyn am hanner dydd a bydd modd i gefnogwyr rygbi sydd heb docyn i'r gêm wylio'r gêm ar sgrin fawr a mwynhau'r parti cyn ac ar ôl y gêm.
Rhys Meirion a Bryn Terfel oedd dau o'r artistiaid yn y CeltFest cyntaf
Bydd cefnogwyr rygbi yn Abertawe yn cael cyfle i wylio'r gêm ar sgrin fawr y BBC sydd yn Sgwâr y Castell. Y Tywysog William, is-lywydd Undeb Rygbi Cymru, fydd yn cyflwyno'r tlws i enillwyr y gêm. Fe fydd rhai ffyrdd o amgylch canol y ddinas a Stadiwm y Mileniwm ar gau am gyfnod ddydd Sadwrn. Mae cwmni Trenau Arriva Cymru yn annog pobl i roi sicrhau digon o amser i gyrraedd y ddinas cyn i'r gêm gychwyn am 5.15pm gan y bydd y trenau yn brysur iawn. I sicrhau diogelwch ar ôl y gêm fe fydd 'na system ciwio yn y brif orsaf trenau a bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn cau ar ôl 6.15pm.
|