British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2009, 21:12 GMT
Ymchwiliad wedi marwolaeth dyn

Anthony Lewis
Cafodd corff Anthony Lewis ei ganfod peth amser ar ôl ei farwolaeth

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn 52 oed o Gasnewydd.

Credir mai dau blismon oedd y rhai diwethaf i weld Anthony Lewis yn fwy.

Cafwyd hyd i gorff y dyn byddar yn ei gartref yn ardal Maindee o'r ddinas ddydd Mawrth.

Roedd y ddau heddwas wedi rhoi cymorth i Mr Lewis i gyrraedd adref bron i bythefnos yn ôl.

Mae Heddlu Gwent wedi trosglwyddo'r mater i'r comisiwn ar ôl iddo farw ar ôl dod i gyswllt posib gyda'r heddlu.

Yn ogystal â bod yn fyddar roedd gan Mr Lewis broblemau lleferydd ac roedd yn ddibynnol ar ddarllen gwefusau ac arwyddo fel ffyrdd o gyfathrebu.

Chwilio am ddyn

Dydi achos ei farwolaeth ddim yn glir o archwiliad post mortem.

Dywedodd y comisiwn bod aelodau o'r cyhoedd wedi dweud eu bod wedi gweld Mr Lewis ar Hydref 20 rhwng 11.30am a 1pm yng nghwmni dau heddwas.

Credir eu bod wedi mynd i gynorthwyo Mr Lewis ddychwelyd i'w gartref yn Stryd Rudry.

Mae'r rhai sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn awyddus i siarad gyda dyn, o bosib gweithiwr cyngor, aeth i helpu Mr Lewis cyn i'r heddlu gyrraedd.

Fe wnaeth Comisiynydd Cymru o'r Comisiwn, Tom Davies, apelio ar unrhyw un allai helpu i gysylltu.

"Cafodd Mr Lewis ei ganfod peth amser ar ôl ei farwolaeth ac mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'w deulu a'i gyfeillion," meddai.

"Hoffwn gydymdeimlo gyda nhw ar adeg anodd.

"Efallai eich bod yn gymydog neu a welodd Mr Lewis allan yn siopa, yn y dafarn neu'r clwb lleol.

"Hoffwn i bwy bynnag sydd â gwybodaeth, gysylltu gyda'r Comisiwn."

Os welodd rhywun Mr Lewis gyda'r ddau heddwas neu a fu mewn cysylltiad gyda fo ar Hydref 19 neu20 i gysylltu gyda'r comisiwn ar 0800 096 9076.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific