Roedd Aaron Gilbert yn 13 mis oed
|
Mae gweithwraig gymdeithasol gafodd ei diswyddo yn sgîl marwolaeth babi yn Abertawe wedi penderfynu na fydd yn derbyn cynnig i fynd yn ôl i'w gwaith. Fe fydd Eleni Cordingley yn derbyn setliad o £8,800. Ym mis Ionawr cafodd ei henw ei dynnu oddi ar Gofrestr y Gweithwyr Cymdeithasol ond ym mis Medi fe wnaeth tribiwnlys wrthdroi'r penderfyniad, Hi oedd yn delio ag achos Aaron Gilbert, babi 13 mis oed gafodd ei lofruddio gan gariad ei fam, Andrew Lloyd, yn 2005. Bu farw'r babi o anafiadau i'w ymennydd ym mis Mai 2005 ac roedd ganddo fwy na 50 o anafiadau i'w gorff. Cafodd ymchwiliad ei gynnal i rôl y gwasanaethau cymdeithasol wedi i Aaron farw. Ar un adeg fe gafodd Mrs Cordingley wybod na fyddai'n cael gweithio yn y maes cymdeithasol mewn unrhyw ran o Gymru, Lloegr a'r Alban. £8,800 Dydd Gwener daeth cadarnhad bod Mrs Cordingley wedi penderfynu na fydd yn dychwelyd i'w gwaith. "Mae Mrs Cordingley wedi penderfynu na fydd yn dychwelyd i'w swydd fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Abertawe," meddai llefarydd ar ran y cyngor. "Yn sgîl y penderfyniad ac ar ôl trafodaethau pellach â'r cyngor, rydym wedi cytuno y dylai Mrs Cordingley dderbyn £8,800 yn lle cyfnod o rybudd, cyflog, pensiwn a gwyliau dyledus." Ym mis Ionawr gerbron Cyngor Gofal Cymru roedd hi wedi cyfaddef ei bod hi wedi camymddwyn. Dywedodd y gwrandawiad apêl na fyddai modd atal y llofruddiaeth pe bai Mrs Cordingley wedi cyfeirio'r achos yn syth at y tîm asesu. Ym mis Hydref 2006 roedd Llys y Goron Abertawe wedi clywed fod Aaron wedi cael ei guro i farwolaeth gan gariad ei fam a'i fod e wedi trin Aaron fel "bag dyrnu". Fe wnaeth Lloyd, a oedd yn bartner i fam Aaron ar y pryd, lofruddio'r babi ym mis Mai 2005. 24 blynedd Cafodd Lloyd, 23 oed o Abertawe, ei garcharu am o leiaf 24 blynedd ar ôl pledio'n euog i lofruddiaeth. Cafodd mam Aaron, Rebecca Lewis, ei charcharu am chwe blynedd am nad oedd wedi diogelu ei phlentyn - y tro cyntaf i rywun fod yn euog o'r drosedd ym Mhrydain. Roedd yr adolygiad swyddogol i farwolaeth Aaron wedi dweud bod 'na sawl rhybudd wedi bod am yr hyn allai ddigwydd. Ond, yn anffodus, chafodd y wybodaeth ddim ei rhannu â'r gwahanol asiantaethau.
|