Enw T James Jones fydd gerbron cyfarfod ym mis Ionawr
Ni fydd etholiad i ddewis yr Archdderwydd nesa.
Mae un o'r ddau gafodd eu henwebu, y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid Hopwood, wedi penderfynu nad yw am i'w henwebiad fynd gam ymhellach.
Felly enw'r Prifardd Jim Parc Nest, T James Jones, fydd gerbron Cyfarfod Cyffredinol yr Orsedd ym mis Ionawr ac mae disgwyl iddo gael ei gadarnhau bryd hynny'n Archdderwydd etholedig.
Mae o wedi dweud ei fod yn awyddus i ystyried newidiadau.
Dydd Iau oedd dyddiad cau enwebiadau.
Wrth y llyw
Pe bai hi wedi llwyddo yn yr etholiad, Mererid Hopwood fyddai wedi bod y ddynes gyntaf i fod yn Archdderwydd.
Bydd T James Jones yn cael ei urddo'n Archdderwydd yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ym mis Mehefin.
Bydd wedyn wrth y llyw yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd ym mis Awst.
"Rwy'n teimlo'n wylaidd iawn ac yn hapus iawn gan fynd i olynu nifer fawr o ffrindiau sydd wedi bod yn y swydd o fy mlaen," meddai ddydd Gwener.
Yr Archdderwydd nesa'n ystyried newid
"Mae gen i ddiddordeb arbennig wrth gwrs yn y seremonïau ac maen nhw wedi cael eu saernïo a'u moderneiddio i raddau pell iawn gan yr Arwyddfardd a phobl eraill yn barod ond fe fyddwn i'n awyddus iawn i saernïo eto.
"Does dim iws eistedd yn ôl a dibynnu ar y traddodiad yn unig, mae angen creu traddodiad newydd."
Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 1986 a 1988 cyn ennill y Gadair yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn 2007.
Mae hefyd yn ddramodydd sydd wedi ysgrifennu wyth o ddramâu a chyfieithu Under Milk Wood i'r Gymraeg.
Cafodd ei eni yng Nghastell Newydd Emlyn yn un o fechgyn Parc Nest.
Graddiodd o Aberystwyth a bu'n weinidog ym Mynydd Bach Abertawe a'r Priordy yng Nghaerfyrddin.
Bu hefyd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin cyn mynd yn Olygydd Sgriptiau Pobol y Cwm.
Ffrae
Cyhoeddodd hanner dwsin o gyfrolau barddoniaeth, y diweddara Nawr, y llynedd.
Roedd T James Jones ynghanol ffrae adeg Cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Caernarfon yn 1979.
Fe a Jon Dressel oedd Ianws, duw y Rhufeiniaid, yr un â dau wyneb.
Ond er mai cerddi Ianws oedd y gorau, y Cyn-Archdderwydd Meirion Evans enillodd gan fod rheolau'r gystadleuaeth wedi eu torri.
Brawd T James Jones, John Gwilym Jones, oedd yr Archdderwydd rhwng 1993 a 1996.
Yn ystod y cyfnod hwn fe gadeiriodd ei fab, y Prifardd Tudur Dylan, a choroni ei frawd, y Prifardd Aled Gwyn.
Mae'n briod â'r awdures Manon Rhys ac maen nhw'n byw yng Nghaerdydd.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.