Cyngor sir: Nifer o'r argymhellion wedi'u cyflwyno
|
Mae mesurau wedi eu cyflwyno yn Sir Benfro fydd yn gwella diogelwch plant ar ôl i ferch gael ei threisio gan fab mabwysiedig ei gwarchodwr. Fe gafodd y ferch 10 oed "ei cham-drin yn rhywiol yn gyson". Cafodd y mab ei garcharu yn 2006. Mae adolygiad i'r achos - ac achos ble y cymerodd llanc 15 oed orddos - wedi dweud bod angen i asiantaethau cefnogi plant "gyd-weithio'n well". Dywedodd y cyngor sir ei fod wedi buddsoddi'n "sylweddol" mewn gofal maeth. Mae crynodebau adroddiadau am y ddau achos wedi eu cyhoeddi. Roedd yr achos cynta'n ymwneud â Phlentyn B, merch 10 oed gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan lanc oedd wedi ei fabwysiadu gan warchodwr y ferch. Roedd hi a'i brawd mewn gofal ar ôl i'w mam ei cham-drin. Yn 2005 dywedodd y brawd wrth athro ei fod wedi gweld y llanc yn cam-drin ei chwaer yn rhywiol. O dan glo Roedd ymchwiliadau'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol wedi dangos ei bod hi wedi cael ei cham-drin yn gyson ers pan oedd hi'n chwech oed. Fe gafodd y llanc ei gyhuddo o dreisio a'i garcharu am leiafswm o chwe blynedd. Yn ôl yr adolygiad, "doedd 'na ddim tystiolaeth bod unrhyw asiantaeth neu weithiwr proffesiynol yn gwybod" bod y ferch mewn perygl. Mae'r adroddiad wedi cyflwyno 33 o argymhellion, gan gynnwys gwella hyfforddi gofalwyr maeth a newid sut y maen nhw'n cael eu hasesu. Roedd yr ail achos yn ymwneud â bachgen 15 oed gymerodd orddos o gyffuriau ym mis Ionawr 2007. Dioddefodd Plentyn C niwed difrifol a pharhaol. Alcohol a chyffuriau Wedi'r ail achos fe gafodd 20 o argymhellion eu cyflwyno, gan gynnwys gwella'r modd y mae asiantaethau'n delio â theuluoedd sy'n bygwth gweithwyr asiantaeth. Dywedodd y cyngor sir fod nifer o'r argymhellion wedi'u gweithredu. "Mae hyn wedi arwain at ganlyniadau gwell i'r plant a'r bobl ifanc y mae Cyngor Sir Benfro'n gofalu amdanyn nhw," meddai. Yn ôl y cyngor, mae mwy o ofalwyr maeth yn golygu bod mwy o ddewis o gartrefi ar gyfer y plant tra bod mwy o gefnogaeth iddyn nhw wedi gwella gan fod llai'n cael ei rhoi yng ngofal un teulu maeth.
|