Osian Jones: Trefnydd y Gogledd
|
Mae llys wedi gohirio carcharu un o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith am fwy na phythefnos. Roedd Osian Jones, 32 oed o Lanllyfni, wedi gwrthod talu dirwyon a chostau o £1,120 ar ôl bod yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon. Roedd yn protestio oherwydd agwedd y siopau at y Gymraeg. Eisoes roedd Llys Ynadon Pwllheli wedi dweud ei fod yn wynebu 28 diwrnod o garchar. Fe fydd y diffynnydd yn Llys Ynadon Caernarfon ar Dachwedd 25 wrth i'r awdurdodau wneud ymholiadau â chyflogwr Mr Jones i geisio cael taliad. Y cyflogwr yw Cymdeithas yr Iaith - fe yw trefnydd y gogledd. 'Creulon' Dydd Gwener arhosodd Osian Jones ac aelodau eraill o'r mudiad yn y llys am hanner awr. Dywedodd Menna Machreth, cadeirydd y mudiad: "Mae'n greulon iawn bod yr ynadon wedi gohirio am bythefnos eto er eu bod eisoes wedi penderfynu ar ddedfryd o garchar. "Eu hesgus yw eu bod am gysylltu â chyflogwyr Osian, ond ni Cymdeithas yr Iaith yw ei gyflogwyr, ac, wrth gwrs, ni fyddwn ni'n tynnu unrhyw ddirwy o'i gyflog. "Byddwn ni i gyd yn ôl yng Nghaernarfon mewn pythefnos."
|