British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2009, 13:35 GMT
Dynladdiad: Pledio'n euog

Michael Pennington
Michael Pennington: Ym mhriodas ei gyfnither

Mae dyn 44 oed o ardal Stockport wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar ôl iddo daro brawd ei bartner mewn gwledd briodas yn Sir y Fflint.

Bu farw Michael Pennington, 26 oed o Ashton-Under-Lyne ger Manceinion, ar ôl i Gavin Jackson daro ei dalcen â'i ben.

Fe gwympodd yn anymwybodol a cheisiodd parafeddyg nad oedd ar ddyletswydd roi triniaeth iddo.

Aed â Mr Pennington i Ysbyty Iarlles Caer ond bu farw fore trannoeth.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod ffrae wedi dechrau rhwng y ddau yng Ngwesty Mountain Park, Y Fflint, ddiwedd Awst.

Roedd Mr Pennington wedi bod ym mhriodas ei gyfnither.

Cafodd Jackson ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y barnwr y byddai'r ffaith iddo bledio'n euog yn cael ei hystyried wrth ei ddedfrydu.

Ofni ymosodiad

Pan gafodd Jackson ei arestio dywedodd wrth yr heddlu bod Mr Pennington wedi dod i'w gyfeiriad a'i fod yn ofni y byddai'n ymosod arno.

Dywedodd Alex Fitzgerald, ar ran yr amddiffyniad mewn gwrandawiad blaenorol, bod Jackson a Miss Pennington wedi bod mewn perthynas am ryw 18 mis.

Ychwanegodd Mr Fitzgerald bod Jackson wedi wynebu pryd o dafod gan Mr Pennington am adael y briodas am fwy na thair awr a bod Mr Pennington wedi bygwth ei drywanu.

Dywedodd bod Jackson, o Romiley ger Stockport, yn ddyn o gymeriad da.

Roedd e'n rheoli cwmni gwerthu ceir gyda'i dad, cyn brif arolygydd yr heddlu, ac roedd e'n gweld ei blant deirgwaith yr wythnos.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific