Rhian Evans yn y canol gydag aelodau eraill y pwyllgor apêl
Mae angen codi £10,000 er mwyn galluogi Cymry dall i ddarllen y Beibl yn Gymraeg. Dyna neges Pwyllgor Apêl Beibl Braille Cymraeg wrth fynd ati i godi'r arian. Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod nhw'n cydnabod mai nifer fechan o bobl fydd yn elwa ond eu bod yn credu y dylai "gan bawb yr hawl i ddarllen y Beibl yn ei iaith ei hun". "Unwaith mae'r gwaith wedi ei wneud, bydd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod," ychwanegodd. Un o'r rhai fydd yn elwa yw Rhian Evans o Gaerfyrddin sy'n aelod o'r Pwyllgor Apêl. Fe gollodd hi ei golwg yn ferch ifanc, tua 30 mlynedd yn ôl. "Eisoes mae Rhian, un o fy ffrindiau pennaf, yn medru canu emynau bob Sul am fod y geiriau mewn Braille," meddai'r cyn-ddarlledwr Sulwyn Thomas, wrth gefnogi'r apêl. "Mae cannoedd o lyfrau mewn Braille. "Cam bach fyddai paratoi'r llyfr pwysicaf ohonynt i gyd mewn Braille Cymraeg." Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr apêl wedi cyrraedd y nod erbyn y Nadolig. Eisoes mae Cymdeithas y Beibl wedi cyfrannu arian.
|