Aeth criwiau o Lanelli, Gorseinon, Y Tymbl, Treforys a Chydweli i ddelio â'r tân
|
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos tân mewn ysgol yn Llanelli. Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Ysgol Gyfun Coedcae am 10.51pm ddydd Iau wedi i dân ddechrau yn yr adeilad technoleg. Dywedodd y prifathro Pete Spencer: "Roedd y difrod mewn dwy stafell ddosbarth allan o bump ond does dim modd mynd i mewn i'r adeilad i gyd. "Fydd y tân ddim yn effeithio ar waith yr ysgol. Mae ysbryd cymunedol gwych yng Nghoedcae. "Rydyn ni'n benderfynol y bydd gwaith yr ysgol yn para fel arfer." Roedd disgyblion i fod i aros gartre ddydd Gwener oherwydd diwrnod o hyfforddiant i athrawon. Aeth criwiau o Lanelli, Gorseinon, Y Tymbl, Treforys a Chydweli i ddelio â'r tân.
|