Clywodd y llys ei bod hi wedi penlinio ar frest un claf
|
Mae barnwr yng Nghaerdydd yn galw am ymchwiliad i sut y cafodd nyrs gyda hanes o salwch meddwl ei chyflogi i ofalu am gleifion â salwch meddwl Mae Penelope Webber, 52 oed o Aberdâr, wedi ei chael yn euog o ddau gyhuddiad o gam-drin a chyhuddiad o esgeulustod. Roedd disgwyl i Webber gael ei dedfrydu ddydd Iau ond fe wnaeth y barnwr Stephen Hopkins QC ohirio'r achos am bythefnos. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y bydden nhw'n cwblhau eu hymchwiliad ar ddiwedd yr achos. Yn Llys y Goron Caerdydd cafwyd y nyrs yn euog o orfodi cleifion â salwch meddwl i fwyta. Penlinio ar frest Clywodd y llys ei bod hi wedi penlinio ar frest un claf yn Ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Roedd y diffynnydd wedi pledio'n ddieuog a dweud nad oedd wedi ymosod ar glaf yn ystod ei gyrfa, hynny yw am 20 mlynedd. Ym mis Ionawr 2009 fe glywodd y cynorthwyydd nyrsio, Ross Morgan, gythrwfl ar y ward yr oedd Webber yn gyfrifol amdani. Dywedodd Mr Morgan iddo weld claf oedrannus, Kenneth Hollyman, yn gadael yr ystafell - ei wefus yn gwaedu a'i groen wedi ei rwygo ar ei benelin. "Ymladd yn ôl" Clywodd y llys fod Mr Morgan wedi gofyn beth oedd wedi digwydd i'r claf. Ateb Webber oedd ei bod hi'n gryfach na'r claf oedd wedi "ymladd yn ôl." Dywedodd Mr Morgan wrth y llys ei fod wedi clywed cythrwfl o ystafell claf 87 oed, Peter Sadler. Gwelodd Webber yn penlinio ar ei frest, roedd hylif dros ben y claf a thabledi wedi chwalu yn ei wallt.
Roedd Ms Webber yn gweithio yn Ysbyty'r Eglwys Newydd
|
Dywedodd hi wrtho fod y claf wedi "gwrthod cymryd meddyginiaeth". Wrth gael ei holi yn y llys, dywedodd Webber nad oedd ganddi unrhyw gof am Mr Sadler. Eglurodd ei bod hi weithiau'n penlinio ar wely gan ei bod yn fyr, yn 5 troedfedd 1 fodfedd o daldra. Ond gwadodd benlinio ar glaf neu ymosod arno. Ychwanegodd nad oedd hi erioed wedi gorfodi unrhyw un i gymryd meddyginiaeth. Fe wnaeth hi gyfaddef iddi roi tabled i Mr Hollyman oedd yn 87 oed a'i bod hi wedi sylwi ar waed yn llifo o'i geg. Ond honnodd iddo droi'n ymosodol a'i gwthio a'i churo. Dywedodd ei bod yn bwriadu archwilio ei anaf cyn ysgrifennu adroddiad ond ei bod hi wedi anghofio cofnodi'r mater. 'Anghysonderau' Hefyd, meddai, roedd hi wedi anghofio nodi'r mater ar ddiwedd y shifft. Pan awgrymodd yr erlynydd, Suzanne Thomas, na wnaeth hi gofnodi'r mater am mai hi oedd wedi achosi'r anaf, ymateb Webber oedd gwadu hyn. "Fe wnes i anghofio." Dywedodd Mikhel Puar ar ran yr amddiffyn fod 'na anghysonderau yn nhystiolaeth yr erlyniad. Gofynnodd i'r rheithgor ofyn i'w hunain pam y byddai nyrs â record heb ei hail yn newid yn sydyn. Roedd Webber yn nyrs yn yr ysbyty ers 1981, yn nyrs cleifion oedrannus a chleifion â salwch meddwl. Cafodd ei gwahardd o'i gwaith gan Ymddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a'r Fro (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach).
|