Llun artist o'r farchnad newydd
|
Bydd un o farchnadoedd defaid mwya Ewrop yn ailagor ar safle newydd ddydd Gwener. Mae cartre'r farchnad yn Y Trallwng, Powys wedi symud i Buttington Cross, filltir tu allan i'r dref. Adeiladwyd y farchnad newydd ar gost o £13m ar 16 erw. Mae'r datblygiad yn cynnwys mwy na 1,000 o gorlannau stoc, dau gylch arwerthu, caffi, pontydd pwyso, a lle i 325 o drelars. Roedd Arwerthwyr Da Byw Y Trallwng yn dweud fod safle'r hen farchnad mewn lleoliad gwael ac yn achosi trafferthion traffig. Bydd yr hen safle yn cael ei ailddatblygu i fod yn ganolfan siopa, gan gynnwys archfarchnad, gorsaf betrol a siopau. £27.5m Amcangyfrifir mai £27.5m yw cost ailddatblygu'r ddau safle. Dywedodd AS Trefaldwyn Lembit Opik: "Mae'r datblygiad wrth galon yr adfywio yn yr ardal ac fe fydd yn creu miloedd o swyddi yn y gadwyn fwyd a'r economi wledig ehangach".
|