Mae Mr Cameron wedi diweddu misoedd o ddyfalu
|
Mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi dweud na fydd yn gwrthod cais y cynulliad am refferendwm pwerau deddfu ychwanegol - os yw'n dod yn Brif Weinidog. Mynegodd David Cameron safbwynt y Torïaid am y mater wrth fynd i Frychdyn, Sir y Fflint, ddydd Gwener. Dywedodd wrth y BBC y bydd Llywodraeth Geidwadol yn caniatáu pleidlais os yw'r cynulliad yn gweneud cais ffurfiol am refferendwm. Ond ychwanegodd mai swyddi a'r economi ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Cynulliad. Yn ôl ffynonellau Ceidwadol yn y cynulliad, mae datganiad yr arweinydd yn "rhyddhad" i gynrychiolwyr y blaid ym Mae Caerdydd gan y byddai'n egluro safbwynt y blaid yn ganolog. Roedd llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, Cheryl Gillan, wedi gwrthod dweud fwy nag unwaith a fyddai llywodraeth Geidwadol yn cytuno i gais y cynulliad. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae angen i ddwy ran o dair o'r cynulliad bleidleisio o blaid cynnal refferendwm i ofyn i bobl Cymru a ddylid cael pwerau deddfu llawn. Rhaid i'r cais wedyn fynd i San Steffan lle byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn penderfynu p'un ai i gymeradwyo neu wrthod y refferendwm. Cymhleth a thrwsgl Yn ddiweddar, mae rhai pleidiau wedi honni y gallai'r Torïaid atal refferendwm hyd yn oed os mai dymuniad y cynulliad oedd cynnal un. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd i San Steffan am ganiatâd i ddeddfu mewn meysydd arbennig. Yn ôl beirniaid, mae'r broses yn gymhleth a thrwsgl. Fe wnaeth Deddf Llywodraeth Cymru 2006 roi'r opsiwn o gynnal refferendwm er mwyn ehangu pwerau'r Cynulliad. Fe fydd Confensiwn Cymru Gyfan, corff sy wedi bod yn casglu tystiolaeth am yr angen am refferendwm, yn cyflwyno eu hadroddiad i Lywodraeth y Cynulliad cyn diwedd y mis. Yn ôl cytundeb Cymru'n Un, arweiniodd at sefydlu llywodraeth glymblaid Llafur a Plaid Cymru, dylid cynnal y refferendwm os oes angen un cyn 2011.
|