Cafodd 300 o yrrwyr eu cosbi ar gam
|
Mae tua 300 o yrwyr wedi cael eu dirwyo ar gam oherwydd camgymeriad gweinyddol. Roedd yr heddlu wedi eu herlyn gan ddweud fod yna gyfyngiad gyrru o 30 milltir yr awr ar ran o'r B4391 yn Y Bala. Ond ar ôl i aelod o'r cyhoedd godi'r mater gyda Chyngor Gwynedd daeth i'r amlwg fod cyfyngiad o 40 milltir yr awr yn parhau mewn grym. Cafodd y gyrwyr gosb ar gam rhwng Mawrth 1 a Gorffennaf 31 eleni. Roedd yr ardal dan sylw, ger stad ddiwydiannol y dref, wedi ei nodi fel un oedd yn peri pryder. Roedd y cyngor wedi cynnal arolwg o'r ffordd yn 1993. Cafwyd argymhelliad i ostwng cyfyngder cyflymdra o 40 i 30 milltir yr awr. Ond ar ôl i aelod o'r cyhoedd gysylltu gyda'r sir daeth i'r amlwg nad oedd y cyfyngiad cyflymdra gwreiddiol wedi ei ddileu. "Oherwydd hyn mae Heddlu'r Gogledd wedi anfon llythyr at y gyrwyr perthnasol er mwyn cywiro'r cam," meddai'r Uwch-arolygydd Simon Shaw. "Mae'r Cyngor yn ymwybodol mai'r hen gyfyngder sy mewn grym ar hyn o bryd ac yn cymryd camau i gywiro hyn."
|