Dim chwilio nos o'r Fali rhwng Tachwedd 15 a Rhagfyr 31
|
Fydd hofrenyddion o'r Llu Awyr yn y Fali, Ynys Môn, ddim ar gael i helpu tîm achub yn y nos am gyfnod o chwe wythnos. Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai hofrenyddion o feysydd awyr eraill ar gael yn ystod y cyfnod. Bydd Y Fali ar Ynys Môn ar gau dros nos rhwng Tachwedd 15 a Rhagfyr 31. Yn aml, mae hofrenyddion y Llu Awyr yn helpu timau achub mynydd yn ardal Eryri. Dywedodd y weinyddiaeth fod y galw am y gwasanaeth gan amlaf yn ystod oriau'r dydd. 12 awr Y Fali yw un o bum gorsaf ym Mhrydain fydd yn gweithio 12 awr y dydd am gyfnod o chwe wythnos. Yno mae hofrenyddion achub y Sea King a thîm hyfforddi timau achub o'r awyr. Dywedodd y weinyddiaeth fod y newidiadau'n "rhai dros dro" ac y byddai nifer y timau achub ym Mhrydain yn codi o 26 i 28 y flwyddyn nesa. "Mae yna drefn eisoes yn bod sy'n golygu hyn - os yw gorsaf ar gau am ba bynnag reswm, mae gorsaf arall ar gael i helpu," meddai Bill Rammell, Gweinidog y Lluoedd Arfog. "Rhaid dweud bod gwasanaeth y criwiau o'r radd uchaf a chystal ag unrhyw le yn y byd. "Fe fydd hynny'n digwydd o hyd."
|