British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009, 14:14 GMT
Cymro ymhlith pum milwr

Nicholas Webster-Smith
Roedd Nicholas Webster-Smith yn yr Heddlu Milwrol

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Gymro gafodd ei saethu yn farw gan aelod o Heddlu Afghanistan ddydd Mawrth.

Cafodd y Corporal Nicholas Webster-Smith ei ladd gyda phedwar milwr arall yn nhalaith Helmand.

Roedd y milwr 24 oed wedi ei eni a'i fagu yng ngorllewin Cymru.

Mae'r awdurdodau'n chwilio o hyd am yr ymosodwr ar ôl iddo ddianc o'r safle.

Ers 2001 mae 229 o filwyr o Brydain wedi marw yn Afghanistan.

Y pedwar milwr arall gafodd eu lladd oedd y Swyddog Gwarant Darren Chant o Lundain, y Sarjant Matthew Telford o Grimsby, y Gwarchodfilwr James Major o Grimsby a'r Corporal dros dro Steven Boote o Benbedw.

Roedden nhw wedi bod yn hyfforddi aelodau Heddlu Afghanistan ac yn byw yng ngwersyll yr heddlu yn ardal Nad Ali yn nhalaith Helmand ers pythefnos.

Cafodd chwech o filwyr Prydain a dau swyddog heddlu eu hanafu.

Roedd yn debyg, meddai'r Fyddin, fod aelod Heddlu Cenedlaethol Afghanistan wedi ochri â'r gelyn.

'Dim manylion'

"Does dim manylion am y rheswm am yr ymosodiad na'r lleoliad.

Roedd y Corporal Webster-Smith yn yr Heddlu Milwrol.

Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Llangynnwr ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth Cambria cyn symud i Sir Benfro.

Nicholas Webster-Smith
Cafodd Nicholas Webster-Smith ei fagu yn y gorllewin

Gorffennodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Greenhill yn Ninbych-y-Pysgod.

Roedd yn byw yn Brackley, Sir Northampton.

Ymunodd â'r Heddlu Milwrol ym mis Chwefror 2005 a bu'n gwasanaethu yn Afghanistan, Kosovo ac Ynysoedd y Falkland.

Dywedodd ei rieni, Richard a Jacqueline, ei frodyr Christopher a Samuel, ei chwaer Hannah a'i gariad, Emma Richardson nad oedd modd llenwi'r bwlch ar ei ôl.

"Roedd yn un o'r bobl fwya cariadus a charedig ac erioed yn meddwl am ei hunan.

"... fe fydd colled ar ei ôl ymhlith y rhai oedd yn ei adnabod.

'Trasiedi'

Dywedodd yr Is-gyrnol Debbie Poneskies fod y Cymro'n "dipyn o gymeriad".

"Roedd yn filwr proffesiynol a phenderfynol, y cyntaf i wirfoddoli a'r olaf i ildio."

Roedd swyddog Heddlu Afghanistan ar do adeilad gwylio pan ddechreuodd saethu, meddai Heddlu Helmand.

Dywedodd llefarydd materion tramor yr Wrthblaid, William Hague, fod yr hyn ddigwyddoddd yn "drasiedi fawr".

Ond roedd rôl milwyr Prydain, meddai, yn allweddol yn Afghanistan.

"Mae hyn yn yn ein hatgoffa pa mor beryglus ydi'r hyn y mae'r dynion dewr yn ei wynebu.

"Allwn ni ddim stopio hyfforddi'r swyddogion yn Afghanistan ond rhaid gwneud popeth i sicrhau diogelwch."



HEFYD
AS: 'Tynnwch filwyr yn ôl'
04 Tach 09 |  Newyddion
Afghanistan: Milwr wedi marw
28 Medi 09 |  Newyddion
Teulu a'r fyddin yn rhoi teyrnged
23 Awst 09 |  Newyddion
Afghanistan: Cymro'n marw
17 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific