Roedd Ray Gravell yn ddarlledwr poblogaidd
|
Mae'r chwilio am artist i greu cerflun y darlledwr Ray Gravell wedi dechrau. Fe fydd y gwaith celf yn cael ei osod ochr yn ochr â cherfluniau eraill o bobl enwog yn nerbynfa BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd. Cafodd cerflun o'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol ei ddadorchuddio y tu allan i gartref newydd y Scarlets yn Llanelli ym mis Medi. Bu farw Grav ar Hydref 31, 2007 pan oedd ar wyliau yn Sbaen gyda'i deulu yn 56 oed. Y darlledwr Ymhlith y cerfluniau eraill sydd yn y dderbynfa y mae Ryan Davies a Carwyn James.
Mae'r gofeb i Ray Gravell y tu allan i brif fynedfa Parc Y Scarlets
|
Roedd y dyn o Fynydd-y-Garreg yn gyflwynydd cyfarwydd a phoblogaidd ar wasanaethau Cymraeg a Saesneg BBC Cymru. Mae'r dasg o chwilio am artist yn cael ei lansio ar y cyd â Safle, ymgynghoriaeth gelf gyhoeddus annibynnol yng Nghymru ac un o'r cyrff celfyddydau cyhoeddus mwyaf yn y pedair gwlad. Ar ôl ennill 23 chap dros Gymru a lle yn nhîm y Llewod aeth i Dde Affrica yn 1980 fe drodd ei law at y byd darlledu ac actio. Chwaraeodd i Lanelli rhwng 1969 a 1985, roedd yn aelod o dîm y Scarlets a ddaeth yn enwog am drechu'r Crysau Duon yn 1972. Grav oedd capten Llanelli rhwng 1980 ac 1982. Fe fydd artistiaid ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i drafod eu diddordeb penodol yn y prosiect.
|