British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009, 08:08 GMT
Annog mwy o gyfyngiadau

Arwydd 20 mya (generic)
Mae 'na 481 o ardaloedd neu gyfyngiadau 20mya yng Nghymru

Mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i adolygu cyfyngiadau cyflymder fel rhan o'r ymdrechion i wneud ffyrdd yn fwy diogel.

Gobaith Llywodraeth y Cynulliad ydi y bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

O dan ganllawiau sydd wedi cael eu hanfon at y cynghorau mae 'na awgrym y gallai cyfyngiadau o 20 milltir yr awr fod o amgylch ysgolion ac ardaloedd poblog.

Cam arall fydd edrych ar nifer y marwolaethau ar ffyrdd gwledig er mwyn ystyried a oes angen newid y cyfyngiadau.

Mae rhai ymgyrchwyr am i weinidogion a gorfodi cyfyngiadau o 20 milltir yr awr ger ysgolion.

Ond dywedodd grŵp sy'n cynrychioli gyrwyr bod ardaloedd 20 milltir yr awr yn "dibrisio" y cyfyngiadau cyflymder ac ychydig iawn o bobl sy'n eu parchu.

'Rôl hanfodol'

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Trafnidiaeth, fod cyfyngiadau cyflymder lleol yn "allweddol" i wella diogelwch ffyrdd a lleihau damweiniau.

Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am osod cyfyngiadau cyflymder ar briffyrdd tra bod yr awdurdodau lleol yn gyfrifol am y cyfyngiadau ar ffyrdd llai.

Does 'na ddim cwestiwn nad ydi hyn wedi bod yn llwyddiannus i arafu traffig
Andrew Farina-Childs, sefydlydd ymgyrch S20S

"Mae cyfyngiadau cyflymder yn chwarae rôl hanfodol o ran rheoli cyflymder yn effeithiol ac maen nhw'n annog ac yn helpu pobl sy'n defnyddio'r ffyrdd i deithio ar gyflymder priodol a diogel," meddai Mr Jones.

Dywedodd bod hi'n bwysig bod cynghorau a'r heddlu yn cyd-weithio wrth ystyried unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau cyflymder.

Dywedodd y hefyd y dylai awdurdodau sicrhau cysondeb yn enwedig pam mae ffyrdd yn croesi ffiniau.

Mae mwy o ddefnydd o gyfyngiadau 20 milltir yr awr ar draws Cymru yn un o addewidion dogfen Cymru'n Un a arweiniodd at sefydlu llywodraeth glymblaid ym Mae Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae 'na 481 o gyfyngiadau neu ardaloedd 20 milltir yr awr yng Nghymru sydd wedi cynyddu'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i arian gan Lywodraeth y Cynulliad.

Diogelwch plant

"Mae astudiaethau wedi dangos y gall cynlluniau 20 milltir yr awr wella diogelwch ac fe fydden ni'n annog awdurdodau lleol i ystyried gweithredu mwy o'r rhain lle bo hynny'n briodol," meddai Mr Jones.

Mae'r canllawiau yn cael eu cyhoeddi cyn lansio strategaeth diogelwch ffyrdd cenedlaethol newydd.

Fe fydd y rhain yn cynnwys targedau lleihau damweiniau y tu hwnt i 2010 ac mae'n bosibl y caiff cyngor ychwanegol ar reoli cyflymder ei lunio i gyd-fynd â nhw.

Mae Andrew Farina-Childs, sefydlydd ymgyrch S20S, yn galw am sefydlu'r ardaloedd 20 milltir yr awr gorfodol ger ysgolion.

"Byddai'n llawer mwy diogel i blant ac mae traffig yn glynu wrth gyfyngiadau o'r fath," meddai.

Mae hyn yn cael ei osod ar hyn o bryd ger ei ysgol leol, Ysgol Uwchradd y Coed-duon yn sir Caerffili.

"Does 'na ddim cwestiwn nad ydi hyn wedi bod yn llwyddiannus i arafu traffig.

"Mae'n llawer saffach i blant."

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Modurwyr Prydain, bod hyn yn "dibrisio" cyfyngiadau cyflymder.

"Does dim pwynt cael cyfyngiadau sy'n cael eu hanwybyddu.

"Mae angen canolbwyntio ar sut y mae pobl yn gyrru, nid pa mor gyflym y maen nhw'n gyrru."



HEFYD
Trafod cyfyngiadau gyrru gwledig
02 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific