Adeiladwyd y maes awyr yn 1938 a'i ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd
|
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gofyn am fwy o gyngor cyfreithiol cyn penderfyniad allai effeithio ar ddyfodol maes awyr. Fe dderbyniodd yr awdurdod 27 cais ar ran Stadau Maes Awyr Llanbedr ar gyfer Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon. Roedd Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu'n ffurfiol, gan honni fod maes awyr masnachol yn erbyn amcanion allweddol yr awdurdod. "Ar hyn o bryd mae'r cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd yn gwbl eglur a diamwys ac yn awgrymu gwrthod y ceisiadau," meddai Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Os yw hyn yn digwydd, byddai'n rhaid i berchnogion y safle wneud cais am ganiatâd cynllunio. Arbenigol Dywedodd yr awdurdod fod 'na gais wedi ei wneud am gyngor cyfreithiol arbenigol. Maen nhw'n disgwyl mwy o wybodaeth gan fargyfreithiwr o fewn yr wythnos nesaf cyn gwneud penderfyniad. Cafodd Maes Awyr Llanbedr ei agor cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd fel safle milwrol. Cafodd ei brynu oddi wrth Y Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Rhagfyr 2008 gan grŵp o ddynion busnes sy'n dweud y bydd ailagor y safle yn creu cannoedd o swyddi yn yr ardal. Cymeradwywyd y gwerthiant i Wasanaeth Awyr Kemble, gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae Cymdeithas Eryri yn dadlau y bydd maes awyr masnachol yn mynd yn erbyn amcanion allweddol y Parc Cenedlaethol i amddiffyn y tirwedd a rhoi mwynhad i'r cyhoedd.
|