Bydd cwmni Saga yn gwario tua £20 miliwn ar adnewyddu'r llong
|
Mae 300 o swyddi'n cael eu creu am dri mis wrth i long gael ei hadnewyddu yn nociau sych Abertawe. Dywedodd cwmni Saga Shipping fod sawl cwmni rhyngwladol yn ymgeisio am y cytundeb. Mae lle i 446 o deithwyr ar long y Saga Pearl II. Bydd cwmni Saga yn gwario tua £20 miliwn ar yr adnewyddu. Dywedodd Andrew Goodsell, cadeirydd gweithredol Grŵp Saga: "Rwy wrth fy modd ein bod ni'n gallu rhoi hwb i'r doc yng Nghymru ac y bydd y gwaith yn helpu adfywio dociau Abertawe."
|