Mae'n gyfnod anodd i'r diwydiant
|
Dywedodd cwmni awyrennau bmibaby eu bod yn ystyried colli 158 o swyddi, gan gynnwys 25 ym Maes Awyr Caerdydd. Mae'n rhan o gynlluniau ail-strwythuro ar adeg anodd i'r diwydiant. Nid yw'n yn glir eto sut y gallai'r toriadau effeithio ar wasanaethau o Gaerdydd. Dywedodd y cwmni fod 54 peilot ac 82 o stiwardesau yn Birmingham, Manceinion a Chaerdydd "mewn perygl o gael eu diswyddo". Mae'r cwmni wedi dweud y bydd nifer yr awyrennau'n gostwng o 17 i 12 y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae 22 o swyddi yn y fantol ym mhencadlys y cwmni yn Castle Donington, Derby. Mae cyfnod ymgynghori 90 diwrnod wedi dechrau. Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn siomedig oherwydd penderfyniad bmibaby. "Rydym yn trafod â nifer o gwmnïau wrth geisio manteisio ar gyfleoedd i wasanaethu'r farchnad Gymreig ... "... fe allai'r cyhoeddiad olygu bod cwmnïau eraill yn ystyried defnyddio Maes Awyr Caerdydd."
|