Mae Caer Rhufeinig Segontiwm yn dyddio yn ôl i 72 Oed Crist
|
Mae ymddiriedolaeth amgueddfa ar safle hen gaer Rufeinig wedi dweud y gallai'r fenter ddod i ben oherwydd diffyg arian. Ar ei anterth Segontium oedd y caer Rhufeinig mwyaf yn y gogledd ac roedd yn ddwywaith maint castell Normanaidd y dref. Mae'r safle, lle bu 7,000 o filwyr, filltir o'r dre a'r waliau'n dyddio'n ôl i 72 OC. Bydd yr amgueddfa yn cau ar gyfer y gaeaf mewn ychydig wythnosau. Ond, yn ôl ymddireidolwyr, mae pryder na fydd yn ailagor yn y gwanwyn oherwydd prinder arian. Dywedodd Rhys Prydderch, Cadeirydd Segontium Cyf, fod y safle'n rhan o etifeddiaeth yr ardal. 'Pwysigrwydd' "Pum mlynedd yn ôl cafwyd arian gan Amgueddfa Cymru i edrych ar ôl y safle. "Erbyn heddiw mae'r arian wedi mynd a does yna ddim arian i dalu am oleuadau na thalu'r staff. "Mae pobl y dre'n falch o'r safle - efalla eu bod nhw ddim yn ymweld â'r lle mor aml ac y gallan nhw - ond maen nhw'n falch o'r lle." Yn ôl yr Athro Raimund Karl o Ysgol Archeolegol Prifysgol Bangor, mae'r safle'n bwysig yn rhyngwladol. "Roedd 'na gysylltiad agos gyda'r Ymerawdwr Macsen Wledig, un o'r ymerawdwyr Rhufeinig-Prydeinig. 'Gorau' "Mae'n un o'r caerau Rhufeinig gorau o'i fath yng Nghymru os nad y byd." Beth bynnag fydd dyfodol yr amgueddfa fe fydd yr olion Rhufeinig yn saff yng ngofal Cadw a Llywodraeth y Cynulliad. "Rydym yn siomedig o glywed am sefyllfa'r amgueddfa," meddai llefarydd. "Ac rydym yn gobeithio y bydd yna ateb i'r broblem."
|