British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 11:54 GMT
Tân: Merch 14 oed o flaen llys

Mae merch 14 oed o flaen llys ddydd Mercher ar gyhuddiad o achosi tân bwriadol â'r bwriad o beryglu bywyd.

Dydd Llun cafodd diffoddwyr tân eu galw i gartref plant yn Stryd Sidney yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.

Chafodd neb ei anafu.

Dywedodd yr heddlu bod y ferch wedi cael ei harestio ddydd Mawrth.

Fe gafodd tri chriw o ddiffoddwyr o Wrecsam eu galw ychydig cyn 4pm ddydd Llun i daclo'r fflamau oedd ar lawr cyntaf ac yn nho'r adeilad.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific