British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 12:18 GMT
Cyfarfod yn trafod cludo plant

Bws
Mae plant ar hyn o bryd yn cael eu cludo i sir arall am ddim

Roedd mwy na 300 mewn cyfarfod yn Y Waun nos Fawrth yn trafod cludo plant o un sir i ysgol mewn sir arall.

Yn ddiweddar, fe bleidleisiodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam o blaid ceisio barn am bolisi cynnig trafnidiaeth am ddim i'r ysgol leol addas.

Mae rhai'n poeni'n y bydd dod â'r gwasanaeth presennol i ben yn golygu diwedd ar blant Y Waun yn mynd i Ysgol Uwchradd Dinas Brân yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Ac mae rhai rhieni wedi bygwth anfon eu plant i ysgol yn Lloegr.

Dywedodd rhai yn y cyfarfod fod Ysgol Rhyn Park yn Sir Amwythig wedi cynnig trafnidiaeth am ddim o'r Waun.

Eisoes mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio tu allan i swyddfeydd y cyngor.

Ym mis Medi y pleidleisiodd y bwrdd gweithredol o chwech i bedwar o blaid ymgynghoriad.

Saith milltir

Ar y pryd dywedodd y cyngor na fyddai hyn yn effeithio ar ddisgyblion Dinas Brâan os mai hi oedd yr "ysgol addas leol agosaf".

Ar hyn o bryd mae disgyblion sy'n teithio o'r Waun yn Sir Wrecsam i Ysgol Uwchradd Dinas Brân yn Llangollen yn cael cludiant am ddim.

Cyngor Sir Wrecsam sy'n talu am gludiant ond Sir Ddinbych sy'n cael yr arian am eu haddysgu.

Mae'r daith un ffordd tua saith milltir o hyd.

Cyn cyfarfod nos Fercher dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Aled Roberts, fod 'na lefydd gwag yn ysgolion Sir Wrecsam.

"Tra bod 'na lefydd gwag o fewn y sir, mae 'na bwysau gan Estyn a Llywodraeth y Cynulliad i lenwi'r llefydd yna.

"Os nad oes 'na ddigon o lefydd - fe fyddwn ni'n edrych ar bob achos yn unigol."

Roedd Aelod Seneddol De Clwyd, Martyn Jones, wedi ysgrifennu at y cyngor yn dweud na ddylen nhw ymyrryd ym mhenderfyniad rhieni.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific