• NEWYDDION
  • Help / Cymorth

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 10:40 GMT
Canabis: 'Corff yn cael ei adael'

Kim Van  Tran
Cafwyd hyd i gorff Kim Van Tran mewn ffos

Cafodd corff dyn o Fietnam ei adael mewn ffos ar ôl iddo farw mewn ffatri ganabis, clywodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe.

Cafwyd hyd i Kim Van Tran wedi ei lapio mewn bagiau plastig du ar ochr ffordd ger Horeb, ger Trimsaran, yng Nghaerfyrddin ym mis Mai.

Mae Ba Doai Tran, 70, o Lundain yn gwadu atal cwrs cyfiawnder drwy gynllwynio i gael gwared ar gorff Kim Van Tran. Mae Ba Doai Tran hefyd yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i ddosbarthu canabis.

Clywodd y rheithgor fod tŷ ym mhentre Porthyrhyd wedi ei droi yn ffatri ganabis.

Perchennog y tŷ hwnnw oedd Ernest John Lewis, 57, o Abertawe, ac mae o yn gwadu cyhuddiad o gynhyrchu canabis.

Mae llanc 17 oed o Fietnam hefyd yn gwadu cyhuddiad o dyfu'r cyffur.

Dywedodd yr erlyniad i ddau ddyn arall o Fietnam, mewn gwrandawiad cynharach, gyfadde eu rhan yn yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel cynllwyn soffistigedig i gynhyrchu a dosbarthu canabis ar raddfa fasnachol.

Mae un wedi pledio'n euog i atal cwrs cyfiawnder ac o gynhyrchu canabis a'r llall i gynhyrchu canabis.

Honnai'r erlyniad fod Kim Van Tran yn arddwr yn y fenter ac yn gweithio yn y ffatri ym Mhorthyrhyd.

Roedd gan y criw dŷ arall oedd yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis, tŷ wedi ei rentu'n breifat yn Llandeilo.

Tystiolaeth fforensig

Does yna ddim arwydd hyd yma sut y bu Kim Van Tran farw.

Ond mae'r erlyniad yn honni i Ba Doai Tran deithio o Lundain i Gymru i drefnu cael gwared ar y corff.

Clywodd y rheithgor fod tystiolaeth ffonau symudol, hanes teclyn llywio lloeren Ba Doai Tran yn ogystal â lluniau cylch cyfyng yn profi fod Ba Doai Tran yn agos iawn i'r man lle cafwyd hyd i Kim Van Tran.

Clywodd y llys fod tystiolaeth fforensig o gorff Kim Van Tran yn dangos iddo dreulio amser yn y ffatri ym Mhorthyrhyd.

'Hoff o deithio'

Ar ran y Goron dywedodd Ian Wright fod corff Kim Van Tran wedi gadael yn gwbl ddiseremoni yn y ffos er mwyn ceisio arbed y fenter hynod lewyrchus.

Ychydig ddyddiau ar ôl darganfod y corff, cafodd pedwar dyn o Fietnam eu harestio yn un o wasanaethau ffordd sir Gaerfyrddin.

Roedd y pedwar yn teithio tua'r gorllewin ac, yn ôl yr erlyniad, yn dychwelyd o Lundain ar ôl treulio peth amser yno yn cuddio.

Fe ddywedodd Ian Wright i Ba Doai Tran honni ei fod yn hoff o deithio i Gymru am fod y wlad yn ei atgoffa o Fietnam, a'i fod yn hoff o deithio traffordd M4.

Fe honnodd hefyd nad oedd yn gwybod dim am Kim Van Tran.

Mae'r tri yn y ddalfa yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific