British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 11:27 GMT
AS: 'Tynnwch filwyr yn ôl'

Kim Howells
Roedd Kim Howells yn gefnogol i'r rhyfel

Dywedodd Aelod Seneddol Pontypridd a chyn-weinidog Llafur y dylid tynnu'r "mwyafrif llethol" o filwyr Prydain o Afghanistan.

Mae ei sylwadau'n groes i bolisi ei blaid.

Dywedodd y byddai'n well defnyddio'r arian sy'n cael ei wario yn Afghanistan i wella mesurau diogelwch i atal ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain.

Roedd ei sylwadau cyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gyhoeddi bod pump o filwyr o Brydain wedi cael eu lladd mewn ymosodiad yn nhalaith Helmand ddydd Mawrth.

Mae'r weinyddiaeth wedi dweud: "Mae'n allweddol i'r pedair gwlad fod ffiniau Afghanistan yn ddiogel ac yn sefydlog ...

Cefnogi'r rhyfel

"Ac mae diogelwch Prydain mewn perygl os y byddwn yn gadael i Afghanistan fod yn hafan ar gyfer terfysgwyr."

Mae Dr Howells yn gadeirydd pwyllgor gwybodaeth a diogelwch yn San Steffan.

Roedd yn gyn-weinidog yn y Swyddfa Dramor ac yn gefnogol pan ddechreuodd y rhyfel yn 2001.

Dywedodd fod rhoi'r cyfle i bobl Afghanistan daclo eu problemau eu hunain wedi cael ei golli.

Milwyr Prydain yn Afghanistan
Mae milwyr Prydain wedi bod yn Afghanistan ers 2001

Ychwanegodd fod awgrymiadau y gallai milwyr Prydain gael eu gorfodi i aros yn y wlad am ddegawdau i sefydlogi'r wlad yn gwbl "hurt".

"Am ba mor hir y gallwn ni odde'r ffaith bod dynion a menywod ifanc dewr yn cael eu lladd neu eu hanafu yn Afghanistan?" meddai wrth y BBC.

"Ychydig o wledydd eraill sydd wedi peryglu eu milwyr yn yr un modd ag yr ydyn ni, hynny yw wrth frwydro yn erbyn terfysgaeth yn Afghanistan er mwyn lleihau terfysgaeth ym Mhrydain."

Tro cyntaf

Yn ôl Gohebydd Amddiffyn y BBC, Caroline Wyatt, hwn yw'r tro cyntaf i uwchwleidydd o Brydain alw am dynnu'r milwyr yn ôl.

Ond dywedodd fod nifer o ASau o bob plaid, yn enwedig y Democratiaid Rhyddfrydol, sy'n cytuno.

Ers dechrau'r rhyfel mae 229 o filwyr o Brydain wedi cael eu lladd.

Eisoes mae Gordon Brown, Y Prif Weinidog, wedi cydymdeimlo â theuluoedd y milwyr diweddara gafodd eu lladd.

Mae nifer y milwyr o'r pedair gwlad wedi codi eleni o 8,000 i 9,000.

Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n anfon 500 o filwyr i Afghanistan "o dan amgylchiadau arbennig".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific