British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 08:17 GMT
Unedau brys: Cymorth cleifion

Llawdriniaeth
Mae nifer cynyddol o gleifion yn ceisio triniaeth yn yr unedau brys

Mae rheolwyr ysbytai gogledd Cymru yn galw ar gleifion i ystyried yn ddwys cyn defnyddio adrannau achosion brys.

Cafodd taflenni eu hanfon i bob cartref yn esbonio mai dim ond cleifion sy'n wael iawn neu wedi brifo'n ddrwg ddylai ddefnyddio'r unedau.

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am holl ysbytai'r gogledd, fod yna broblem wrth geisio ymdopi gyda'r nifer cynyddol o gleifion sy'n dod trwy ddrysau'r unedau brys.

Yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf, does yr un o'r prif adrannau achosion brys yn cyrraedd y nod o drin 95% o gleifion o fewn pedair awr.

Nawr mae'r Bwrdd Iechyd yn annog pobl i ystyried yn ddwys cyn mynd i'r ysbyty.

Mae'r taflenni, sy wedi eu hanfon i bob cartref yn y gogledd, yn pwysleisio bod yna sawl opsiwn arall ar gael, fel mynd at y meddyg teulu neu ymweld â'r uned man anafiadau.

Yn ôl y daflen, dim ond cleifion sydd a'u bywydau mewn perygl neu sy'n wael iawn ddylai droi at adrannau achosion brys ym Mangor, Wrecsam a Glan Clwyd ym Modelwyddan.



HEFYD
Unedau damweiniau: Llai o oedi
05 Chwef 08 |  Newyddion
Unedau argyfwng i daclo gor-yfed
17 Rhag 04 |  Newyddion
Unedau brys: Mwy o gleifion
21 Ion 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific