Dim ond mewn un llygad y mae Meirwen Davies yn gweld
|
Mae llawdriniaeth i achub golwg darlithydd o Gaerffili wedi cael ei ganslo ar y munud ola oherwydd camddealltwriaeth ynglyn â thal. Roedd Meirwen Davies, 65 oed, yn gobeithio cael trawsblaniad cornbilennol yn Ysbyty Singleton Abertawe ar Dachwedd 11. Ond cafodd y driniaeth ei chanslo ac mae ei hymgynghorydd wedi cael gwybod na fydd yn digwydd hyd nes bod yr arian yn ei le. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod angen iddyn nhw gael cadarnhad yngln â'r arian gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae'r achos wedi cael ei anfon at Weinidog Iechyd Cymru Edwina Hart sydd wedi gofyn am ymchwiliad. Yn 2007 fe gafodd Mrs Davies wybod ei bod yn diodde o ddistroffi'r cornbilennol Fuchs yn ei llygad dde a bod angen iddi gael llawdriniaeth i achub ei golwg. Roedd hi eisoes wedi colli golwg yn ei llygad chwith. Triniaeth Mae'r cyflwr yn achosi i gelloedd mewnol y cornbilennol i farw. Oherwydd camddealltwriaeth ynglyn ag apwyntiau mae Mrs Davies eisoes wedi wynebu oedi. Ym mis Chwefror eleni cafodd ei henw ei roi ar restr aros yn Singleton, Abertawe. Ar Hydref 14 cafodd Mrs Davies alwad ffôn gan yr ysbyty yn dweud y byddai'n cael y driniaeth ar Dachwedd 11. Ond yr wythnos ganlynol derbyniodd lythyr yn dweud bod y driniaeth wedi ei chanslo.
Mae'r driniaeth arloesol wedi cael ei wneud yn Abertawe ers blwyddyn
|
"Roedd y llythyr yn dweud na fyddaf yn cael y driniaeth hyd nes bod 'na gadarnhad ynglyn â thaliadau'r driniaeth," meddai Mrs Davies. "Fe wnes i gysylltu gyda'r bwrdd iechyd oedd yn dweud nad oedden nhw'n gwybod dim am hyn. "Gan fy mod wedi cychwyn (gwaith) yng Nghaerdydd, roeddwn yn credu y byddai'r arian yn fy nilyn." Er bod ei haelod cynulliad wedi cysylltu gyda'r gweinidog iechyd dydi Mrs Davies ddim wedi cael gwybod pryd neu os fydd ei thriniaeth yn cael ei gynnal. "Maen nhw wedi dweud wrtha i am beidio poeni gan fod y gweinidog yn trin hyn fel mater o fyrder. "Ond dwi ddim yn gweld pam bod rhaid canslo." Methu marcio Yn y cyfamser mae golwg Mrs Davies wedi gwaethygu cymaint fel ei bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith fel un sy'n marcio arholiadau Lefel A gan nad oes modd iddi wneud y gwaith ddigon cyflym oherwydd ei bod yn defnyddio adnoddau ychwanegol i ddarllen. Ond mae cefnogaeth ei gŵr, cydweithwyr a myfyrwyr yn caniatáu iddi barhau i weithio mewn coleg chweched dosbarth yng Nghaerdydd. "Mae'n rhaid i'r myfyrwyr ddarllen fy nodiadau a'i gwaith i mi gan fod fy ngolwg mor wael," meddai Mrs Davies. "Dwi'n dal i ddysgu gan fod y coleg wedi bod yn dda ond dwi eisiau dychwelyd at y marcio. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am Ysbyty Singleton. Mewn datganiad fe wnaethon nhw ddweud nad ydi'r driniaeth newydd yn dod o dan gytundeb hirdymor gyda byrddau iechyd lleol. Oherwydd hyn maen nhw angen cadarnhad bod 'na arian ar gael cyn bwrw ymlaen. "Rydym yn prosesu'r cais ar unwaith a bydd rhaid i fwrdd iechyd lleol y claf ei gymeradwyo," meddai datganiad. "Mae'r gwaith papur wedi cael ei anfon atyn nhw." Fe ofynnwyd am ymateb gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn gallu cadarnhau bod y gweinidog iechyd wedi derbyn cyfathrebiaeth gan aelod cynulliad y claf ond bod hi'n anaddas gwneud sylw ar achosion unigol. "Mae'r gweinidog wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i'r mater," ychwanegodd.
|