British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009, 07:26 GMT
Benthycwyr: Targedu 'pobl fregus'

Pwrs arian
Fe wnaeth un benthycwr godi llog o 149,000%

Mae cymdeithasau tai yn dweud bod benthycwyr arian anghyfreithlon yn targedu tenantiaid gan eu bod ymhlith y bobl fwya tlawd yng Nghymru ac yn methu cael arian yn unrhyw le arall.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai, yn cychwyn ymgyrch ddydd Mercher i rybuddio tenantiaid rhag benthyca arian gan y benthycwyr anghyfreithlon.

Ers y dirwasgiad mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n mynd at fenthycwyr didrwydded, sy'n codi llogau cwbwl eithafol, ac mae'r sawl sy'n cael benthyciad yn cael eu bwlio a'u bygwth pan maen nhw'n methu talu'r ddyled yn ôl.

Dywed yr ymgyrch bod tua 15,000 o bobl yn benthyca arian o fenthycwyr anghyfreithlon bob blwyddyn.

Yn 2008 cafodd Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ei sefydlu ac maen nhw wedi arestio 36 o fenthycwyr anghyfreithlon hyd yma.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynrychioli 18 o gymdeithasau tai Cymru.

Bygwth tenantiaid

Fe fydd Moneyline Cymru yn cynnig cyngor a chredyd i bobl sydd ddim yn gallu cael benthyciadau o'r banciau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, Nick Bennett, bod benthycwyr yn cysylltu gyda phobl wrth iddyn nhw symud i'r cartrefi newydd, yn cynnig arian i brynu eitemau fel peiriannau golchi, oergelloedd a rhewgelloedd.

Gall y benthycwyr wedyn godi llog mor uchel gan wneud hi'n amhosib i bobl ad-dalu'r benthyciad.

"Mae tenantiaid wedi cael eu bygwth, wedi cael eu brawychu ac wedi ystyried hunanladdiad oherwydd effaith y benthycwyr," meddai Mr Bennett.

"Mae 'na dystiolaeth bod y benthycwyr yn targedu'n tenantiaid."

Y llynedd cafodd Patrick Kiely, o Fangor, ei garcharu am ddwy flynedd am redeg cwmni benthyca arian heb drwydded.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi codi llog blynyddol o hyd at 149,000%.

Dywedodd Steve Tooby, pennaeth yr uned benthyca arian anghyfreithlon yng Nghymru, y byddan nhw'n mynd a'r ôl y benthycwyr anghyfreithlon.

"Os ydach chi'n dechrau erlid rhai o'r bobl fregus mewn cymdeithas, fe fyddwn ni yn eich erlyn chi."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific