Mae nifer yn troi at eglwysi efengylaidd
|
Mae Archesgob Cymru Dr Barry Morgan wedi gwadu bod yr Eglwys yng Nghymru yn wynebu argyfwng. Daw hyn ar ôl i ymchwiliad gan BBC Cymru ddangos bod niferoedd y rhai sy'n mynychu gwasanaethau wedi disgyn yn is na 50,000. Fe fydd rhaglen Week In Week Out nos Fawrth hefyd yn dangos bod mwy o bobl erbyn hyn yn mynd i wasanaethau efengylaidd. Fe wnaeth Cynghrair Efengylaidd Cymru amcangyfri bod 60,000 o addolwyr yn mynd i'w heglwysi yn wythnosol. Yn y cyfamser, ers 1990, mae'r nifer o addolwyr mewn gwasanaethau'r Eglwys yng Nghymru wedi gostwng o dros 62,000 i 49,000. "Y gwir amdani yw dwi'n credu bod 'na lanw a thrai cyn belled a mae ffigurau yn y cwestiwn," meddai'r Parchedicaf Ddr Barry Morgan sy'n gwasanaethu'n esgobaeth Llandaf. 'Anwybyddu' "Ar hyn o bryd yn Llandaf os edrychwch chi ar y ffigurau mae 'na 35 o eglwysi yn cynyddu. "Mae 'na fwy o aelodau gyda nhw - ac felly mae pobl sy'n dweud bod yr eglwys yn marw yn bell allan ohoni," ychwanegodd. Dywedodd cyn-bennaeth yr adran ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Llanbed bod yn rhaid ymateb yn fuan er mwyn sicrhau dyfodol yr eglwys. "Yr unig beth na all yr Eglwys yng Nghymru ei wneud yw anwybyddu'r argyfwng yma," meddai'r Athro Robert Warner. "Dwi'n meddwl os yw'r argyfwng yn cael ei hwynebu nawr, mae yna gyfle i'r Eglwys yng Nghymru ail-ddylunio'i hun." Mae'r gwasanaethau efengylaidd, ble mae addoli drwy gyfrwng dawns a chân yn gyffredin, yn boblogaidd ymhlith y to ifanc. Er bod yr Eglwys yng Nghymru'n tueddu i fod yn fwy traddodiadol ei naws mae ganddi hithau rai aelodau efengylaidd hefyd. Mae mwy ar y stori yma ar Week In Week Out ar BBC Un Cymru, nos Fawrth am 10.35pm.
|