British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009, 19:51 GMT
O blaid mwy o bwerau i'r iaith

Y Senedd
Mae'r Cynulliad wedi cymeradwyo'r cais

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid cynnig i sicrhau mwy o bwerau dros yr iaith Gymraeg.

Roedd rhai aelodau yn feirniadol o'r broses, gan ddweud bod y gorchymyn yn rhy wan.

Bydd rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin a'r Frenhines cyn y bydd modd i'r Cynulliad basio deddfau newydd ynglyn a'r iaith.

Dywedodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Cymru, y bydd y pwerau yn golygu y gallai'r llywodraeth basio holl addewidion gafodd eu nodi yn nogfen Cymru'n Un o ran y Gymraeg.

Gosod cynsail

Ond roedd sawl aelod o'r pwyllgor oedd yn edrych ar y drafft cyntaf yn y pwyllgor wedi dweud bod hi'n annerbyniol na chafodd nifer o'u hargymhellion eu cynnwys yn ystod cyfarfodydd y tu ôl i ddrysau caeedig rhwng Llywodraeth y Cynulliad a San Steffan.

Dywedodd AC Llafur Alun Davies, aelod o'r pwyllgor, bod y cynnig yn "anghyflawn ac yn gul".

"Mae'n gosod cynsail dwi'n ofni lle na fydd modd i ni ddeddfu lle y mynnwn."

Democratiaeth Fyw: Trosglwyddo grymoedd dros yr iaith Gymraeg

Gwadodd Mr Jones bryderon am ehangder y pwerau gan ddweud bod y Gymraeg yn rhan allweddol o fywyd yng Nghymru a'i fod o fudd i bawb.

"Hyd yn oed os ydach chi'n siarad yr iaith a'i peidio.

"Rhaid bod yn gyson a gwasanaeth o safon uchel yng Nghymraeg er mwyn gweld cynnydd yn nefnydd yr iaith.

"Mae'r cynnydd yn nifer y plant fydd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn galonogol ond er gwaetha llwyddiant, mae'n parhau i fod yn frwydr i'w defnyddio y tu hwnt i giât yr ysgol.

"Rhan o'r ymdrechion ydi'r addewid yn nogfen Cymru'n Un i sefydlu hawliau ieithyddol yn nhermau darpariaeth gwasanaethau.

"Mae'r gorchymyn yn cydnabod bod mudiadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig yn ein darpariaeth o wasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru a chydnabod bod angen gwneud pethau yn gliriach.

"Mae'r cyhoedd yng Nghymru eisiau derbyn cysondeb a safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg."



HEFYD
Cais iaith: 'Ystyriaeth lawn'
23 Meh 09 |  Newyddion
Iaith: Cyngor cyfreithiol
07 Hyd 09 |  Newyddion
Cais iaith: Cyhoeddi adroddiad
07 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific