British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009, 18:39 GMT
Talu am fag plastig erbyn Mai 2010

bagiau plastig
Bydd rhaid i gwsmeriaid dalu i gael bag o siopau y flwyddyn nesaf

Fe fydd rhaid i siopwyr Cymru dalu am fagiau plastig sy'n cael eu defnyddio unwaith erbyn mis Mai 2010.

Fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cymru, Jane Davidson, y cyhoeddiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Eglurodd bod y llywodraeth wedi penderfynu codi tâl er mwyn lleihau'r defnydd ar y bagiau a fydd yn help i'r amgylchedd.

Dydi union swm y bagiau ddim wedi cael ei benderfynu eto ond mae disgwyl y bydd siopau yn codi tâl o rhwng 5c a 15c am fag.

Daw'r newid i rym cyn etholiad nesaf y cynulliad.

Fe ddywedodd Ms Davidson hefyd y bydd yn gweithio gyda chwmnïau mawr i ddod i gytundeb ynglŷn â lle fydd yr arian fydd yn cael ei godi yn mynd.

Mae gan y llywodraeth y pwer i orfodi cwmnïau i godi tâl am fagiau ond does ganddyn nhw ddim y pwer i benderfynu lle fydd yr arian yn mynd.

'Pydru'

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai'r arian fynd at elusennau amgylcheddol.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fag plastig sy'n cael ei ddefnyddio unwaith mewn ymdrech i gwtogi'r defnydd.

Democratiaeth Fyw: Cyhoeddiad Jane Davidson

Amcangyfrifir bod 480 miliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru ac mae'n cymryd rhwng 500 a 1,000 o flynyddoedd iddyn nhw bydru.

Fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd i gyflwyno'r tâl gorfodol.

Caiff rheolau drafft eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Yn gynharach eleni cafodd ymgynghoriad ei gynnal ac fe godwyd pryderon am y modd y byddai'r arian o'r tâl yn cael ei ddefnyddio a sut y byddai yn effeithio ar rannau o'r gymdeithas.

"Rydym yn bryderus am yr effaith posib y bydd tâl yn ei gael ar rai ar incwm isel," meddai cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru, Vivienne Sugar, cyn cyhoeddiad Ms Davidson ddydd Mawrth.

"Rydym hefyd yn credu, er mwyn i'r defnyddwyr fod yn hyderus bod y tâl yma yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol er budd yr amgylchedd, bod corff annibynnol yn cael ei ddefnyddio i weinyddu'r arian," ychwanegodd Ms Sugar.

"Rydym yn cydnabod nad oes gan weinidogion Cymru'r pwer i ddweud lle ddylai'r arian fynd, ond rydym yn annog yn gryf bod hyn yn cael ei newid yn y gyfraith.

"Mae Cymru yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar y modd y gellir lleihau'r defnydd o fagiau plastig sy'n cael eu defnyddio unwaith ac annog mwy o bobl i ail-ddefnyddio bagiau."

Dywedodd Consortiwm Manwerthwyr Prydain y dylai cwsmeriaid gael eu hannog i newid yn hytrach na chael eu llethu gan drethi.

Fe wnaeth Ms Davidson ychwanegu bod rhai cwmnïau mawr eisoes yn codi tâl am fagiau a'u bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn y defnydd.



HEFYD
Tâl bagiau plastig: Apêl
21 Medi 09 |  Newyddion
Codi tâl o 15c am fagiau plastig
29 Meh 09 |  Newyddion
Bagiau plastig: Rhybudd gweinidog
11 Chwef 09 |  Newyddion
Dechrau'r diwedd i fagiau plastig?
11 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific