British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009, 17:33 GMT
Cyngor yn gwrthdroi penderfyniad

Neuadd y Sir, Sir y Fflint
Roedd rhai gweithwyr yn ofni colli miloedd o'u cyflogau

Mewn cyfarfod arbennig fe wnaeth cynghorwyr Sir Y Fflint benderfynu gohirio cynllun oedd yn anelu at gyflog cyfartal i'r gweithwyr.

Fe wnaeth y cynghorwyr bleidleisio ym mis Awst i weithredu cynllun Cytundeb Statws Sengl.

Ond ddydd Mawrth dywedodd rhai aelodau nad oedden nhw wedi deall oblygiadau llawn y bleidlais honno.

Roedd rhai o staff y cyngor wedi honni eu bod yn wynebu colli miloedd o bunnoedd.

Nid y cyngor yma ydi'r unig un i adolygu cyflogau staff.

Mae pob awdurdod lleol yn y DU wedi neu yn gorfod cynnal adolygiad o'u cyflogau.

Yn 1997 fe arwyddoddc pob awdurdod y cytundeb er mwyn sicrhau cyflogau cyfartal.

Nod y cytundeb oedd sicrhau cyflogau teg a chyfartal i ferched a dynion.

Anfodlonrwydd

Ond mae cynghorau Cymru a Lloegr wedi cael trafferthion i weithredu'r polisi oherwydd eu cyllideb.

Roedd y broses ailwerthuso ac ail raddio yn Sir y Fflint wedi achosi problemau dybryd.

Ar lawr y siambr ddydd Mawrth fe soniodd un cynghorydd am enghreifftiau lle oedd rheolwyr yn ennill llai o gyflog na'r bobl yr oedden nhw'n rheoli.

Roedd rhai gweithwyr yn wynebu gostyngiad o £15,000 y flwyddyn.

O'r 9,000 o staff sy'n gweithio i'r awdurdod, roedd 2,000 wedi dweud eu bod yn anfodlon ar eu graddau newydd.

Penderfyniad y cyfarfod arbennig oedd gwrthdroi penderfyniad mis Awst a gohirio gweithredu'r polisi, gan osod wyth o amodau.

Mae'r rhain yn cynnwys edrych eto ar y broses ailwerthuso swyddi, chwilio am gyngor o ffynonellau eraill, a sefydlu cronfa i'r rhai sy'n diodde waetha yn y broses newydd.

Roedd pob un o'r grwpiau ar y cyngor yn gytûn ar y mater.



HEFYD
Pryder am gytundeb cyflog cyfartal
08 Hyd 09 |  Newyddion
Her cyflog cyfartal i gynghorwyr
05 Mai 08 |  Newyddion
Angen cyfle cyfartal mewn ysgolion
03 Rhag 01 |  Newyddion
Llai o dâl i fenywod o hyd
15 Chwef 06 |  Newyddion
Datgelu cyflogau gweithwyr cyngor
17 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific