British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2009, 17:11 GMT
Ffrae cludo plant i'r ysgol

Llangollen
Mae Llangollen yn Sir Ddinbych

Mae 'na ffrae yn corddi ynglŷn â chludo plant o un sir i ysgol mewn sir arall.

Ar hyn o bryd mae disgyblion sy'n teithio o'r Waun sydd yn Sir Wrecsam i Ysgol Uwchradd Dinas Bran yn Llangollen, sydd yn Sir Ddinbych, yn cael cludiant am ddim.

Cyngor Sir Wrecsam sy'n ysgwyddo'r gost.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fawrth yn Neuadd Y Waun i drafod y sefyllfa.

Mae 'na bryder bod y cyngor yn ystyried cael gwared ar y sybsydi ac yn bwriadu codi tal ar ddisgyblion o'r Waun sy'n mynd i Langollen.

Mae'r daith un ffordd tua 7 milltir.

Yn ddiweddar fe wnaeth Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam bleidleisio ar gynnal ymgynghoriad i'r polisi o gynnig trafnidiaeth am ddim i'r ysgol addas leol.

Ddim am newid

Yn ôl gwrthwynebwyr fe fydd hyn yn cael effaith ar blant Y Waun.

Dywed Cyngor Wrecsam bod 'na lefydd gwag ar gael mewn ysgolion yn o fewn y sir ac y dylai'r disgyblion fynd yno i ddechrau.

Ond mae rhieni yn gwrthwynebu'r newid.

"Ar hyn o bryd mae plant yn cael trafnidiaeth am ddim i'r ysgol sydd ddim yr ysgol agosaf atyn nhw mewn rhai achosion," meddai arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Aled Roberts.

Bws
Mae plant ar hyn o bryd yn cael eu cludo i sir arall am ddim

"Mae plant Y Waun yn mynd i Langollen a phlant Llai yn mynd i Gastell Alun yn Sir y Fflint.

"Os fydd y bwrdd gweithredol a'r gweinidog addysg yng Nghaerdydd yn cymeradwyo ar ôl i'r broses ymgynghorol ddod i ben, fydd y cyngor sir yn talu am drafnidiaeth am ddim i blant i'r ysgol agosâ.

"Yn achos disgyblion Y Waun, fe fyddan nhw'n mynd i Darland neu Rhiwabon ac i blant Llai mynd i Fryn Alun."

Eglurodd bod 'na lefydd gweigion o fewn ysgolion sir Wrecsam ac nad ydi hi'n dderbyniol bod arian am y plant yn mynd i siroedd eraill.

"Tra bod 'na lefydd gwag o fewn y sir, mae 'na bwysiau gan Estyn a Llywodraeth y Cynulliad, i lenwi'r llefydd yna," ychwanegodd.

"Os nad oes 'na ddigon o lefydd - fe fyddwn yn edrych ar bob achos yn unigol."

Ond dywedodd y Cynghorydd Dewi Evans sy'n aelod o gyngor tref Y Waun bod hi'n hen arfer bod plant yn mynd i Langollen.

"Pan oedd Y Waun ym mwrdeistref Glyndŵr rhoddwyd sicrwydd gan Wrecsam y byddai'r arfer yn parhau ond mae Wrecsam wedi newid meddwl ac am eu hanfon i Riwabon.

"Rydym yn son am tua 200 o blant.

"Ac mae 'na ysgol yn Lloegr sydd dair milltir i ffwrdd wedi cynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion Y Waun," meddai.

Dywedodd Mr Roberts nad oedd yn ymwybodol o gofnodion am yr addewid.

Dywedodd Aelod Seneddol De Clwyd, Martyn Jones, ei fod wedi ysgrifennu at y cyngor yn y gorffennol yn dweud na ddylen nhw ymyrryd ym mhenderfyniad rhieni.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific