|
Fe gafodd dyn 29 oed o Abertawe ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o ddianc o lys. Cafodd James William Stevenson o ardal Bonymaen ei gyhuddo o ddianc o Lys y Goron Abertawe ar Hydref 2. Ymddangosodd yn y llys ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo. Cafodd ei gyhuddo o ddianc o'r ddalfa a chyhuddiad o ddwyn dwy fodrwy aur gwerth £240 o siop yn Nhreforys bum niwrnod yn ddiweddarach. Bydd yn aros yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf ar Ionawr 4 2010.
|