Bydd y cnu yn addurno adeilad ger Y Drenewydd sy'n dyddio nôl i'r 13eg Ganrif
Bydd cnu gwlân 300 o ddefaid Cymreig yn cael ei ddefnyddio i addurno adeilad sy'n dyddio nôl i'r 13eg Ganrif ar gyfer prosiect celf. Crëwyd y gwaith 'Clad' gan yr artist Steve Messam ar gyfer Galeri Oriel Davies yn Y Drenewydd, Powys. Cnu defaid lleol, Defaid Mynydd Duon Cymreig a brîd y Kerry Hill, fydd yn cael ei ddefnyddio orchuddio adeilad pren traddodiadol. Y bwriad yw dathlu treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol yr ardal. Lleolir y gwaith celf mewn amgylchedd gwledig, a gellir ei weld o'r Drenewydd.
 |
Rwy'n gobeithio annog ymwelwyr i ystyried swyddogaeth amaethyddiaeth, pensaernïaeth ac estheteg leol ar yr amgylchedd cyfarwydd
|
Dewiswyd Mr Messam o 134 o ymgeiswyr ar gyfer prosiect yn yr arddangosfa a elwir Tu Hwnt i'r Patrwm. "Rwy'n gobeithio annog ymwelwyr i ystyried swyddogaeth amaethyddiaeth, pensaernïaeth ac estheteg leol ar yr amgylchedd cyfarwydd," meddai. Bwriad Tu Hwnt i'r Patrwm yw dod ag artistiaid o Gymru a llefydd eraill o'r DU at ei gilydd er mwyn archwilio a dathlu patrwm brethyn. Amcan yr arddangosfa yw dathlu llwyddiant diwydiant brethyn Y Drenewydd ar hyn o bryd ac yn y gorffennol. Mae'r galeri wedi comisiynu dau artist arall, Catherine Bertola ac Angharad Pearce-Jones, i gynhyrchu gwaith ar gyfer yr arddangosfa. Bydd yr arddangosfa Tu Hwnt i'r Patrwm i'w weld yng Ngaleri Oriel Davies o Dachwedd 21 hyd at fis Ionawr, tra bydd Clad i'w weld hyd Ragfyr 6.
|