Mae Lukasz Reszpondek yn gwadu iddo lofruddio Ms Rodgers
|
Roedd union leoliad "bedd dwfn" dynes fu ar goll am 14 mis ym mheiriant lloeren dyn sydd wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio, clywodd y llys. Mae Lukasz Reszpondek, 30 oed, o Wlad Pwyl, yn gwadu lladd Ermatati Rodgers, oedd yn wreiddiol o Indonesia. Cafwyd hyd i gorff y wraig 41 oed mewn tir ger Plas Erddig, Wrecsam, ym mis Mawrth. Mae'r gweithiwr mewn ffatri gaws, sy'n briod ac yn dad i ddau o blant, yn cyfadde iddo atal claddu Ms Rodgers yn gyfreithiol. Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug bod y diffynnydd wedi teithio i Gymru yn 2004 i chwilio am waith. Fe wnaeth gyfarfod Ms Rodgers, oedd yn cael ei hadnabod gan ffrindiau fel Tati, yng ngwaith Dairycrest ger Wrecsam. Peiriannau Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Reszpondek wedi crogi Ms Rodgers yn ei gartref yn Rhostyllen ger Wrecsam ym mis Ionawr 2008 cyn claddu'r corff. Cafodd y corff ei ganfod ym mis Mawrth eleni.
Aeth Ermatati Rodgers, 41 oed, ar goll fis Ionawr 2008
|
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth dywedodd y diffynnydd iddo gloddio ffos gyda choesau Ms Rodgers i'w gweld er mwyn gallu dweud yn union wrth yr heddlu lle'r oedd y corff. Clywodd y llys hefyd ei fod yn bryderus bod yr heddlu yn defnyddio peiriannau mawr i gloddio gan y byddai'n gallu difrodi'r corff a dinistrio tystiolaeth a allai fod wedi ei helpu gan nad oedd modd iddo egluro sut y bu Ms Rodgers farw. Dywedodd iddo ddweud y gwir yn ystod y tridiau o gael ei holi gan yr heddlu ac nad oedd 'na reswm iddo ddweud celwydd bellach. Pan ofynnwyd iddo a wnaeth o lofruddio Ms Rodgers, dywedodd; "Na. Wnes i ddim ei llofruddio. Doedd gen i ddim rheswm dros wneud hynny." Fe wnaeth y llys glywed un rheswm bod Mr Reszpondek ddim wedi cysylltu gyda'r heddlu ar ôl iddo ganfod corff Ms Rodgers yn farw yn ei stafell fyw oedd nad oedd o eisiau colli ei swydd. Rhy hwyr Fe wnaeth gytuno iddo fod yn hunanol a meddwl amdano ei hun hytrach na Ms Rodgers. Treuliodd y noson ar y soffa yn meddwl be ddylai ei wneud, clywodd y llys. Yn y bore penderfynodd ei bod yn rhy hwyr i ffonio'r heddlu ac felly penderfynodd guddio'r corff. Dewisodd le "tawel a hyfryd" clywodd y rheithgor ond doedd hi ddim yn hawdd cloddio bedd ac mae'n bosib ei fod yno am tua chwe awr. Pan ofynnwyd iddo pam na wnaeth o adael y corff, dywedodd nad oedd o wedi gwneud dim o'i le ac nad oedd o'n gweld rheswm i wneud dim o'i le i'w chorff. Rheswm arall na wnaeth o adael y corff oedd ei fod yn Babydd a bod cyrff fel arfer yn cael eu claddu. Cytunodd fod lleoliad y bedd wedi cael ei roi yn ei beiriant lloeren yn y car o dan "ffefrynnau". Dim perthynas Eglurodd ei fod wedi ceisio "anghofio" am y digwyddiad a pharhau gyda'i fywyd. Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi dychwelyd i'r lle sawl gwaith "i weddïo". Yn gynharach ddydd Mawrth yn y llys gwadodd Mr Reszpondek ei fod o wedi cael perthynas rywiol gyda Ms Rodgers. Dywedodd bod Ms Rodgers wedi ei gusanu ar un achlysur ond ei fod wedi gwneud yn glir nad oedd am gael perthynas. Fe wnaeth gyfaddef y gallai'r ddau fod wedi rhannu gwely unwaith ar ôl parti yn nhŷ ei landlord. Ond dywedodd na chafodd y ddau gyfathrach rywiol. Clywodd y llys fod tystiolaeth fforensig wedi ei ddarganfod ar fatres o eiddo Ms Rodgers. Dywedodd Mr Reszponkek ei fod wedi cysgu a'i wraig yno wrth aros gyda Ms Rodgers pan oedden nhw'n chwilio am lety parhaol. Mae'r achos yn parhau.
|