Mae Byron Davies wedi bod yn brif weithredwr am 17 o flynyddoedd
Mae prif weithredwr cyngor mwyaf Cymru i ymddeol ar ôl 17 o flynyddoedd. Dywedodd Byron Davies, sy'n 62 oed, fod yr amser yn gywir "i drosglwyddo'r awenau yng Nghaerdydd" i rywun arall. Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae Mr Davies wedi bod yn ganolog i'r newidiadau yn y brifddinas. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd sifil cyn symud i'r ochr weinyddol. Daeth yn gyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo hen sir De Morgannwg yn 1990, ac fe'i dyrchafwyd yn brif weithredwr y sir yn 1992. Ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995 ef oedd prif weithredwr cyngor newydd Caerdydd. 40 mlynedd "Dwi wedi bod yn gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus am dros 40 mlynedd ac mae'n rhaid rhoi'r gorau rhywbryd," meddai. "Roedd cwblhau canolfan siopa Dewi Sant yn benllanw ar broses o sicrhau fod Caerdydd yn un o brif ddinasoedd Prydain ac Ewrop." Fe fydd Mr Davies yn rhoi'r gorau i'w swydd cyn diwedd y flwyddyn. Bydd prif weithredwr dros dro yn cael ei benodi cyn i'r swydd cael ei llenwi yn barhaol yn 2010. Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y cynghorydd Rodney Berman, fod y ddinas wedi ei thrawsnewid yn ystod cyfnod Mr Davies. "Rwyf am ddiolch i Byron am ei ymroddiad i ddinas Caerdydd a'i dinasyddion dros y blynyddoedd."
|