Bydd y Daith Parch yn ymweld ag wyth o leoliadau gwahanol
|
Mae sioe deithiol gwrth-fwlio yn cael ei chynnal ledled Cymru fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â'r broblem mewn ysgolion. Bydd y 'Daith Parch' yn anelu at godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o fwlio sy'n cael effaith ar blant a phobl ifanc. Llywodraeth y Cynulliad a NSPCC Cymru sydd y tu ôl i'r ymgyrch gyda chefnogaeth Rhwydwaith Gwrth-fwlio Cymru. Yn dechrau ym Mangor ddydd Mawrth, bydd y Daith Parch yn ymweld ag wyth o leoliadau gwahanol. Bydd yn dod i ben gyda digwyddiad yng Nghasnewydd i nodi'r Wythnos Gwrth-fwlio Genedlaethol a gynhelir rhwng Tachwedd 16 a 20. Mae'r sioe yn cynnig gweithdai ac yn ymdrin â materion megis seiberfwlio, bwlio homoffobig, a bwlio yn gysylltiedig ag anabledd. Bydd y cwmni theatr 'Diverse Arts' yn llwyfannu perfformiadau theatr rhyngweithiol, gan roi cyfle i ddisgyblion edrych ar effaith bwlio ar fywydau plant a phobl ifanc. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg: "Bydd y gweithdai ledled Cymru yn rhoi cyfle rhagorol i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n gysylltiedig â bwlio, tra'n helpu i roi cymorth a gwybodaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio".
|