Dywed yr ymddiriedolaeth nad yw'r cynllun wedi ei gefnogi gan dystiolaeth wyddonol
|
Mae elusen yn gobeithio cael adolygiad barnwrol o benderfyniad i orchymyn difa moch daear mewn rhannau o orllewin Cymru mewn ymgais i gael gwared ar y diciâu mewn gwartheg. Mae Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones yn gofyn iddi ohirio'r broses fyddai'n gweld cynllun difa'n digwydd yn Sir Benfro. Dywed yr ymddiriedolaeth nad yw'r cynllun wedi ei gefnogi gan dystiolaeth wyddonol. Dywedodd llywodraeth y cynulliad ei bod wedi derbyn llythyr gan gyfreithwyr ac y byddai'n ystyried eu hymateb. Cyhoeddodd y gweinidog fis Medi y byddai'n arwyddo gorchymyn fyddai'n rhoi'r hawl i'r llywodraeth gyhoeddi cynllun difa, ddaeth i rym ar Hydref 21. Mae'r difa yn cael ei drefnu ar gyfer rhan o ogledd Sir Benfro, a dywedodd Ms Jones na fyddai'n digwydd cyn Ebrill nesaf. Ond dywedodd Ymddiriedolaeth y Moch Daear bod y difa yn mynd yn groes i "dystiolaeth wyddonol".
 |
Gobeithiwn y bydd ein pryderon sydd yn seiliedig ar wyddoniaeth am y cynigion i ladd moch daear yn cael eu cymryd o ddifrif ac na fydd angen i ni ddilyn ein proses o adolygiad barnwrol
|
Mae cynnig wedi ei roi gerbron yn erbyn y gorchymyn ac fe gynhelir trafodaeth ddydd Mercher yn siambr y Senedd, meddai'r elusen. Dywedodd David Williams ar ran yr elusen: "Yn groes i'r graen rydym wedi cychwyn ar broses o adolygiad barnwrol oherwydd ein perthynas gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r weinyddiaeth dros faterion gwledig yn gyffredinol. "Gobeithiwn y bydd ein pryderon sydd yn seiliedig ar wyddoniaeth am y cynigion i ladd moch daear yn cael eu cymryd o ddifrif ac na fydd angen i ni ddilyn ein proses o adolygiad barnwrol." Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth ei bod wedi gofyn i lywodraeth y cynulliad fis Medi pa ganran o foch daear oedd i'w difa ond iddynt gael yr ateb nad oedd arolygon cychwynnol wedi cael eu cwblhau nac arolygon ecolegol chwaith. Dywedodd Ms Jones pan gyhoeddodd yr arwyddo gorchymyn bod mwy o waith paratoi i'w wneud er mwyn sefydlu'n union pa ardaloedd fyddai'n addas ar gyfer y difa.
|