British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Tachwedd 2009, 20:02 GMT
Carchar am dreisio dynes 71

Mae dyn wedi cael ei garcharu am bum mlynedd a hanner am dreisio athrawes wedi ymddeol mewn coedwig yn Sir Wiltshire.

Cafwyd Michael Alcock, 27 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr yn euog o dreisio'r fam i dri pan ymddangosodd o flaen Llys y Goron Swindon ar Fehefin 26.

Ymosodwyd ar y ddynes wrth iddi gael ei bygwth â chyllell.

Roedd Alcock wedi gofyn i'r ddynes am lifft cyn ei bygwth.

Fe wnaeth y barnwr Douglas Field osod enw Alcock ar y rhestr troseddwyr rhyw am gyfnos amhenodol.

Ar ôl yr achos, dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Davey o Heddlu Wiltshire ei fod yn gobeithio bod y canlyniad yn help i'r dioddefwr a'i theulu gael heddwch meddwl.

"Roedd hwn yn ymosodiad ffiaidd.

"Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr a ddangosodd ddewrder anhygoel drwy gysylltu gyda ni a chynnig tystiolaeth gadarn yn y llys."



HEFYD
Dyn yn euog o dreisio gwraig 71
26 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific