Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol ym mis Mehefin
Dros bedwar mis ers agor Hafod Eryri yn swyddogol fe fydd yn cau'r drws - dros fisoedd y gaeaf. Wedi'r holl wario a'r holl ymdrech i godi'r arian fydd 'na ddim lloches i'r cerddwyr fydd yn cyrraedd copa'r Wyddfa tan ddechrau'r gwanwyn. Dywed Parc Cenedlaethol Eryri eu bod wedi cael haf llwyddiannus iawn. Ond mae'r gwaith o ddadgomisiynu'r adeilad yn cychwyn yr wythnos yma. Dros y dyddiau nesaf, fe fydd staff y parc cenedlaethol a Rheilffordd Yr Wyddfa yn paratoi'r adeilad i oroesi'r gaeaf. Dros fisoedd y gaeaf fydd 'na ddim adnoddau ar gael i gerddwyr yn Hafod Eryri. Dim bwyd na diod Fydd 'na ddim toiledau, ddim caffi, ddim lloches na threnau. Bydd setiau teledu yn cael eu symud, bydd y siop a'r caffi yn cael ei wagio yn gyfan gwbl a bydd y dŵr yn cael eu tynnu o'r tanciau a'r pibellau cyn cloi'r adeilad yn ddiogel tan y gwanwyn nesaf.
Fe fydd y ganolfan groeso a'r caffi ar gau dros y gaeaf
|
Dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, sy'n berchen ar yr adeilad, bod y prosiect yma wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y misoedd diwethaf. "Mae'r diddordeb yn yr adeilad wedi bod yn anfesuradwy. "O ganlyniad mae wedi bod o fudd sylweddol i'r economi lleol. "Roeddem yn gwybod y bydda 'na gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r copa, ond wnaethon ni ddim rhagweld cymaint o gynnydd ag a gafwyd. "Rydym yn gwybod bod bron i 24,000 o gerddwyr wedi bod ar Yr Wyddfa yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst sy'n gynnydd o 24% o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. "Mae hyn yn naturiol yn newyddion da iawn i'r ardal gyfan." 'Tymor prysur' Roedd yr hen adeilad yn cau bob gaeaf ac mae Hafod Eryri yn dilyn yr un drefn. Gan fod y tywydd yn gwaethygu cymaint dros y gaeaf, does dim modd i'r trenau deithio i'r copa oherwydd y gwynt, eira a rhew. Dywedodd Swyddog Marchnata Rheilffordd Yr Wyddfa, Jonathan Tyler, bod hi wedi bod yn dymor prysur. "Rydym nawr yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a gobeithio y bydd y flwyddyn nesaf yr un mor brysur. "Mae'n edrych yn addawol iawn." Yr unig ffordd i gyrraedd y copa dros y gaeaf ydi drwy gerdded a hynny gyda'r dillad addas ac wedi edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn ar y daith.
|