Nod y strategaeth yw lleihau nifer yr hunanladdiadau
|
Mae bron i 2,000 o bobl wedi derbyn hyfforddiant yng Nghymru i geisio adnod pobl sy'n diodde o iselder, fel rhan o gynllun i leihau nifer yr hunanladdiadau. Mae athrawon, yr heddlu a staff iechyd ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yng nghynllun 'Siarad â fi'. Llywodraeth y Cynulliad sydd tu cefn i'r cynllun gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i son am eu problemau. Mae tua 300 o bobl yn lladd eu hunain yng Nghymru bob blwyddyn, canran uwch na Lloegr ond sy'n is na'r Alban. Penderfynwyd llunio strategaeth yn gynt na'r disgwyl ar ôl cyfres o farwolaethau ymhlith pobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Llinell 24 awr Dywedodd Tony Jewell, prif swyddog meddygol Cymru, mai'r nod yw annog pobl i siarad am eu problemau. "Dyw siarad am faterion ddim yn creu problem nac yn cynyddu risg. "Y gwrthwyneb sy'n gywir. "Wrth i ni ddod i ddeall am broblemau yn aml rydym mewn lle gwell i ddod o hyd i gymorth. "Mae galwadau i linell gymorth 24 awr wedi cynyddu, sy'n arwydd positif fod pobl yn ymwybodol o'r gwasanaeth ac yn fwy parod i drafod eu problemau." Mae'r llinell gymorth 24 awr yn derbyn nawdd o £400,000 y flwyddyn gan Lywodraeth y Cynullid, a £100,000 ar gyfer cydlynydd o'r Samariaid. Daw'r arian ar gyfer hyfforddiant, tua £1.7 miliwn, o Lywodraeth y Cynulliad a'r Gronfa Loteri.
|