British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Tachwedd 2009, 11:21 GMT
Prif Gwnstabl newydd wrth y llyw

Mark Polin
Mark Polin sy'n olynu Richard Brunstrom

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin, wedi dechrau ar ei swydd newydd ddydd Llun.

Yn 46 oed mae'n olynu Richard Brunstrom, gafodd gryn sylw gan y wasg Brydeinig oherwydd ei safiad ar oryrru a chyffuriau.

Bu Mr Polin yn ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaerloyw, a bu'n gweithio am bedair blynedd yn rhengoedd Heddlu Gwent.

Dywedodd ei fod yn awyddus i barhau â'r gwaith da ac 'adeiladu ar record dda' Heddlu'r Gogledd.

Yn ôl Ian Roberts, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, bydd Heddlu'r Gogledd yn elwa o brofiad eang ac arbenigaeth Mark Polin.

Cyn-ddirprwy Brif Gwnstabl y Gogledd, Clive Wolfendale, sydd wedi bod wrth y llyw ar ôl i Mr Brunstrom ymddeol ym mis Gorffennaf.



HEFYD
Chwilio am brif gwnstabl newydd
11 Gorff 09 |  Newyddion
Ymddeol: 'Yn falch o lwyddiant'
10 Gorff 09 |  Newyddion
Brunstrom yn ymddiheuro i AS
30 Ion 08 |  Newyddion
Brunstrom: 'Cyfreithloni cyffuriau'
01 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific