Roedd llifogydd yn ardal Llwynbedw, Abertawe
Mae llawer o bobl ar draws Cymru'n dechrau asesu'r difrod ar ôl llifogydd mewn sawl rhan o'r wlad dros y penwythnos. Cafodd 13 o bobol eu hachub am eu bod yn sownd mewn ceir neu gartrefi yn sgîl llifogydd yng Nghymru. Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin eu bod wedi delio â 100 o ddigwyddiadau ddydd Sul. Ers bore Sul roedd y ganolfan rheoli wedi derbyn mwy na 180 o alwadau o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Fe gafodd dwy fenyw eu hachub yng Nglandŵr, Abertawe, am 8.45am. Roedd y ddwy'n sownd mewn car oedd yng nghanol troedfeddi o ddŵr. Fe gafodd pedwar oedd yn sownd mewn dau gar eu hachub ger Castell Newydd Emlyn. Yn y cyfamser, fe gafodd pum oedolyn a babi oedd mewn dau dŷ eu hachub ym Meidrim ger Caerfyrddin. Llawr cynta Yn Redberth ger Aberdaugleddau fe gafodd dyn ei achub oedd yn sownd ar y llawr cynta. Cafodd yr A40 ger Pont Caneston ei chau am fod afon wedi gorlifo oherwydd glaw trwm. Am gyfnod fore Sul oherwydd gwyntoedd cryf doedd dim modd i lorïau uchel groesi Pont Afon Cleddau. Ers 11.39 fore Sadwrn bu dynion tân yn pwmpio dŵr o Island House yn San Clêr. Ar hen Bont Hafren (M48) roedd un lôn ar gau i lorïau uchel rhwng Cyffordd 1 a Chyffordd 2. Cau Fe gafodd Heol Rhigos, yr A4061, ei chau yn Y Rhondda oherwydd tirlithriad rhwng yr A4059, yr A465 a Hill Street. Fe fydd yn parhau ar gau ddydd Llun. "Mae'n debyg bod y cwrs dŵr wedi newid cyfeiriad," meddai Nigel Wheeler o Gyngor Rhondda Cynon Taf. "Dy'n ni ddim yn siwr pa mor sefydlog yw'r tir ac fe fydd staff yn asesu'r sefyllfa fore Llun." Bore Sadwrn roedd dynion tân yn pwmpio dŵr o Siop Spar yn Llansawel ger Castell-nedd a thai ym Mhort Talbot. Dywedodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu bod wedi cael galwadau oddi wrth bobl yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, a Bodedern ac Amlwch yn Sir Fôn. "Doedd y digwyddiadau dim yn ddifrifol," meddai llefarydd. Dywedodd Gwasanaeth Tân y De eu bod wedi gorfod mynd i Faesteg, Merthyr, Aberdâr, Treorci a Thonypandy.
|